Andrew Mountbatten Windsor 'i golli ei deitl milwrol olaf'

Y Tywysog Andrew

Mae Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Andrew Mountbatten Windsor yn colli ei deitl o 'Is-Lyngesydd'.

Dywedodd John Healey fod ei adran "yn gweithio i gael gwared" o'r teitl, a gafodd ei wobrwyo i Andrew ar ei benblwydd yn 55 oed yn 2015.

Dyma deitl anrhydeddus milwrol olaf Andrew wedi iddo ddychwelyd y gweddill yn 2022 o ganlyniad i'w gysylltiadau gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Dywedodd Mr Healey: “Yn gyffredinol, mae’r Llywodraeth wedi cael ei harwain gan y penderfyniadau a’r dyfarniadau y mae’r Brenin wedi’u gwneud.

“O ran yr adran amddiffyn, yr un ydy'r achos. Rydym wedi gweld Andrew yn ildio’r swyddi anrhydeddus a fu ganddo drwy gydol y fyddin, ac wedi’i arwain eto gan y Brenin, rydym yn gweithio bellach i gael gwared ar y teitl is-lyngesydd olaf sydd ganddo.”

'Arwain gan y Brenin'

Ni wnaeth yr Ysgrifennydd Amddiffyn wneud sylwad ynghylch a fyddai Andrew yn gallu cadw ei fedalau, gan gynnwys y fedal ymgyrch a dderbyniodd am ei wasanaeth yn Rhyfel y Falklands, ond dywedodd y byddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei “harwain gan y penderfyniadau y mae’r Brenin yn eu gwneud”.

Daw hyn wedi i'r camau allweddol cyntaf gael eu cymryd i dynnu teitlau Andrew oddi arno wedi iddo golli ei brif deitl ‘Tywysog’ a chael gwybod y bydd yn rhaid iddo adael ei blasty, Y Lodge Brenhinol nos Iau. 

Fe gyhoeddodd Palas Buckingham fod y Brenin wedi “dechrau proses ffurfiol” o dynnu prif deitl ei frawd ddydd Iau, ac y bydd yn bellach yn cael ei adnabod fel Andrew Mountbatten Windsor. 

Mae’n ymddangos nad yw Andrew chwaith, bellach yn cael ei enwi ar restr swyddogol arglwyddi’r DU.

Dywedodd Palas Buckingham ei fod wedi cael ei dynnu oddi’r rhestr wedi i Andrew golli ei deitlau brenhinol, gan gynnwys y teitl Dug Efrog. 

Virginia Giuffre

Fe gafodd hunangofiant gan y diweddar Virginia Giuffre, a wnaeth honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan Andrew pan oedd yn 17 oed, ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Bu farw Ms Giuffre yn Awstralia ym mis Ebrill o ganlyniad i hunanladdiad. 

Roedd hi wedi honni yn ei hunangofiant, sydd wedi ei gyhoeddi ers ei marwolaeth, bod Mr Windsor wedi cael rhyw gyda hi ar dri achlysur pan yr oedd hi yn ei harddegau - honiad y mae cyn-Ddug Efrog wedi ei wadu.

Mae Andrew wedi bod yn gysylltiedig â'r Llynges Frenhinol ers 1979, pan ddechreuodd hyfforddiant swyddogion yng Ngholeg Llynges Frenhinol Britannia yn Dartmouth.

Mae pwysau hefyd yn cynyddu ar Andrew i roi tystiolaeth o flaen pwyllgor Cyngresol yn yr Unol Daleithiau.

Mae aelodau o Bwyllgor Goruchwylio'r Tŷ wedi galw ar y cyn-dywysog i ddatgelu'r hyn yr oedd yn ei wybod am weithredoedd Epstein.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.