Dyn 21 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y de ddwyrain
Mae dyn 21 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr M48 yn oriau mân fore Sadwrn, 1 Tachwedd.
Roedd y ffordd ar gau am bron i 18 awr yn dilyn y ddamwain.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Fe wnaethom dderbyn adroddiad am wrthdrawiad ger cyffordd 2 yr M48 tua 02.30 ddydd Sadwrn 1 Tachwedd.
"Mynychodd swyddogion, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
"Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys un car - Audi S1 Quattro - a chyhoeddwyd bod y gyrrwr wedi marw yn y fan a'r lle.
"Nid yw'r dyn a fu farw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu perchennog cofrestredig y car - dyn 21 oed o Ddyfnaint - wedi cael gwybod."
