Huntingdon: Gweithiwr trên 'arwrol' yn parhau mewn cyflwr difrifol
Huntingdon: Gweithiwr trên 'arwrol' yn parhau mewn cyflwr difrifol
Mae gweithiwr trên 'arwrol a geisiodd atal yr ymosodwr' yn parhau mewn cyflwr sy'n peryglu bywyd yn dilyn ymosodiad trywanu ar drên yn Sir Caergrawnt nos Sadwrn.
Mae pump o bobl bellach wedi eu rhyddhau o'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar y trên oedd yn teithio o Doncaster i King's Cross yn Llundain yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain mewn diweddariad brynhawn Sul mai dyn 32 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad ydy'r unig un o dan amheuaeth bellach.
Fe wnaeth y dyn, o Peterborough, fynd ar y trên yng ngorsaf Peterborough.
Mae dyn arall 35 oed o Lundain wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
Dywedodd y llu fod yr heddlu wedi gallu sefydlu nad oedd yn rhan o'r ymosodiad.
Mae gweithiwr trên yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sy'n peryglu ei fywyd.
Dywedodd yr heddlu fod y person yn aelod o staff Rheilffordd Gogledd-ddwyrain Llundain (LNER) a oedd ar y trên ac a geisiodd stopio'r ymosodwr.
"Mae ditectifs wedi adolygu'r CCTV ar y trên ac mae'n glir fod ei weithredoedd yn arwrol, ac heb os nac oni bai, fe wnaeth achub nifer o fywydau," meddai'r heddlu.
Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain, John Loveless fore Sul nad oes unrhyw beth i awgrymu fod y digwyddiad yn ymosodiad terfysgol.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi disgrifio'r digwyddiad yn un "pryderus dros ben".
Mae tystion wedi dweud eu bod nhw wedi gweld dyn gyda chyllell fawr a theithwyr yn cuddio yn y toiledau i osgoi'r ymosodiad, yn ôl papur newydd The Times.
Y gred yw fod yr ymosodiad wedi dechrau ychydig wedi i'r trên adael gorsaf Peterborough.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Casey: “Mae hwn yn ddigwyddiad ofnadwy ac yn gyntaf oll mae fy meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u hanafu nos Sadwrn a’u teuluoedd.
"Rydym yn cynnal ymholiadau brys i sefydlu beth sydd wedi digwydd, a gallai gymryd ychydig o amser cyn y byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau unrhyw beth pellach."
Ychwanegodd yr AS dros Huntingdon, Ben Obese-Jecty, fod y digwyddiad yn "erchyll".
"Mae fy meddyliau gyda’r holl ddioddefwyr a gafodd eu hanafu yn ystod yr ymosodiad erchyll hwn," meddai.
Lluniau: PA