Fyddech chi am wybod pe bai’n bosib i chi ddatblygu dementia?
Fyddech chi am wybod pe bai’n bosib i chi ddatblygu dementia?
I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r syniad o wybod eich bod rhyw ddydd yn debygol o ddatblygu dementia yn un sy’n amhosibl i’w ddychmygu.
Ond i Matthew Joseph o Gaergybi ar Ynys Môn, mae’r posibilrwydd yn pwyso’n drwm arno bob dydd.
Bu farw mam Matthew, Jill, yn 58 oed y llynedd ar ôl derbyn diagnosis o’r salwch yn 2023. Cyn hynny, bu farw mam Jill ei hun o ddementia ac mae yna hanes o’r cyflwr yn y teulu.
“Sa mam yn dweud, ‘dwi’n mynd i gael hwn un diwrnod. Dwi ddim isho hynny ddigwydd - dwi ddim isho i’r un peth ddigwydd i fi a be sy ‘di digwydd i weddill y teulu,” meddai Matthew wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
“Roedd hi’n anodd i ni gyd glywed hynny, achos rywle yn ei chalon, deep down, roedd hi’n gwybod.”
Mae Matthew, sy’n gerddor, yn ystyried cynnal profion genetig a allai ddangos a yw’n cario gennyn sy’n rhedeg trwy’i deulu ac os yw felly’n fwy neu llai tebygol o ddatblygu dementia ei hun.
“Dw i’n meddwl amdano drwy’r amser. Mae siawns fedra i gal o, a ma rhan ohona fi yn meddwl dylwn i wybod, ond ma rhan arall ohonai ddim yn siŵr os fedrai ymdopi â’r peth.”
Mae Matthew wedi bod gyda’i bartner Alex ers dros ddwy flynedd. Mae’r cwpl yn trafod dechrau teulu, naill ai drwy IVF neu fabwysiadu, ond mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol Matthew wedi arwain at sgyrsiau anodd.
“O lle dwi’n dod, fysa’n well gen i beidio â gwybod,” meddai Alex. “Dw i ddim eisiau iddo effeithio ar ein bywydau. Dw i jest eisiau cael yr amser gorau gyda Matthew.”
Mae Matthew yn deall hynny, ond mae hefyd yn gweld ochr arall y ddadl.
“Mae na bŵer mewn gwybod,” meddai. “Pe bai rhywun yn dweud wrtha i fod gen i 20 mlynedd cyn i mi gael dementia, byddwn i o leiaf yn gwybod wedyn sut dw i eisiau treulio’r amser hwnnw.”
Her gynyddol
Er bod tua 50,000 o bobl ar hyn o bryd yn byw gyda dementia yng Nghymru, mae Cymdeithas Alzheimer’s yn amcangyfrif y bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu 37% i tua 70,000 erbyn 2040.
Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu pwysau cynyddol i gyhoeddi cynllun gweithredu dementia newydd, ar ôl i’r un blaenorol ddod i ben yn 2022.
Mae gwleidyddion yn y Senedd wedi galw ar weinidogion i weithredu’n gyflym, gan rybuddio bod pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu gadael i lawr gan y system bresennol. Mae disgwyl ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun newydd yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones, arbenigwr dementia ac ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, fod straeon fel un Matthew yn dangos yr angen brys am gefnogaeth cyson a gwell mynediad at ddiagnosis cynnar.
“Fy ngobaith yw y bydd y llywodraeth yn symud ymlaen gyda’r cynllun gweithredu nesaf,” meddai.
“Dwi’n credu bod o’n wych bod nhw’n ymgynghori ond da ni eisiau i’r ymgynghoriad nesaf yna i ddechrau rŵan.
"Fy mhryder mawr i ydy hefo etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, mae’r ymgynghoriad yn mynd i gymryd ni i’r gwanwyn a dy’n ni ddim yn mynd i weld dim byd yn digwydd eto tan yn hir i fewn i flwyddyn arall."
Bydd Matthew yn trafod ei benbleth ym mhennod Y Byd ar Bedwar ar S4C nos Lun - rhaglen sy’n edrych ar brofiadau cleifion dementia iau - pan mae symptomau yn dechrau cyn 65 oed. Mae’r cyflwr yn effeithio ar 3,700 o bobl yng Nghymru, a 70,800 trwy’r Deyrnas Unedig.
Yn ganwr a pherfformiwr, mae Matthew yn defnyddio ei gerddoriaeth i godi ymwybyddiaeth o ddementia, gan berfformio cân newydd, Psychic a rhoi’r elw i elusennau ymchwil.
“Mae wedi bod yn fy nheulu ers degawdau,” meddai. “Dw i jest yn gobeithio y byddwn ni’n dod o hyd i wellhad rhyw ddydd.”
Y Byd ar Bedwar: ‘Yn Fyw yn y Cof’ - dydd Llun, 3 Tachwedd am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.