Trychineb Dolgarrog: Cwestiynau'n parhau, ganrif yn ddiweddarach

Trychineb Dolgarrog

Wrth i gymuned yn Sir Conwy nodi 100 mlynedd ers i 16 o bobl farw yn Nolgarrog, mae awdur llyfr newydd yn honni mai “esgeulustod sefydliadol” oedd yn gyfrifol am y marwolaethau.

Ar nos Lun, 2 Tachwedd 1925, fe wnaeth dau argae yn Llyn Eigiau a chronfa ddŵr Coedty fethu yn dilyn cawodydd o law trwm.

O ganlyniad, fe wnaeth miliynau o alwyni o ddŵr o’r cronfeydd lifo i lawr llethrau’r dyffryn gan gludo malurion a cherrig hyd at 10 tunnell o faint, drwy Borth Llwyd a tuag at bentref Dolgarrog.

Fe gafodd tai ac adeiladau eu dymchwel a’u difrodi gan y don anferthol, tra bod 16 o bobl, gan gynnwys chwech o blant, wedi colli’u bywydau.

Image
Trychineb Dolgarrog
Llun yn dangos wal argae Llyn Eigiau wedi ei dymchwel (Llun: Gwasanaeth Archif Conwy)

Oni bai bod llawer o drigolion y pentref yn y sinema'r noson honno, fe allai rhagor o bobl fod wedi marw, yn ôl yr aelod seneddol lleol ar y pryd, Goronwy Owen.

I nodi canmlwyddiant y trychineb, mae arddangosfa wedi’i sefydlu yn Eglwys y Santes Fair yn y pentref, gyda sawl digwyddiad, gan gynnwys gwasanaeth coffa, yn cael eu cynnal ddydd Sul.

Ond ganrif wedi’r dinistr, mae arbenigwr ar argaeau yn honni mai esgeulustod gan y llywodraeth ar y pryd a’r cwmni oedd yn gyfrifol am adeiladu’r strwythurau oedd ar fai am yr hyn ddigwyddodd.

Mae David Greatrex, perirannydd siartredig â dros 30 mlynedd o brofiad ym maes argaeau, wedi ysgrifennu llyfryn sy'n dadansoddi'r hyn ddigwyddodd.

“Roedd hon yn ddamwain oedd yn aros i ddigwydd, heb unrhyw amheuaeth,” meddai Mr Greatrex wrth siarad â Newyddion S4C.

'Tu hwnt i grediniaeth'

Yn ymchwiliad y crwner wedi’r digwyddiad, cafodd rheithfarn o 'farwolaeth ddamweiniol' ei roi.

Yn ei gasgliad, dywedodd fod “esgeulustod difrifol iawn” wedi digwydd, ond oherwydd yr amser a aeth heibio, nid oedd modd dynodi pwy oedd yn gyfrifol am yr esgeulustod hwnnw.

Ar ôl dadansoddi’r canfyddiadau ac adroddiadau lleol o’r cyfnod, mae Mr Greatrex, sydd wedi gweithio fel pennaeth diogelwch cronfeydd Dŵr Cymru, yn dweud nad oedd yr argae ar Lyn Eigiau “yn ffit”.

Yn ei ddadansoddiad, mae’n dweud nad oedd sylfaeni’r strwythur wedi’u gosod yn ddigon dwfn yn y tir – dwy droedfedd yn lle’r chwe throedfedd angenrheidiol ar gyfer strwythur o’r math yma.

Image
David Greatrex
Mae David Greatrex yn gyn-beiriannydd sifil.

Cafodd gwaith adeiladu’r contractwyr o Lundain, Bott and Stennett, ei ddisgrifio’n “israddol” gan y crwner, gyda deunyddiau o ansawdd isel yn cael eu defnyddio.

“Dwi ddim yn deall, wrth edrych yn ôl, sut mae’n bosib codi’r argae mawr gyda’r sylfaeni yn rhy fas. Mae tu hwnt i grediniaeth.

“Mae’r bai ar yr ymgynghorwyr peirianyddol, nhw sydd yn gyfrifol am y gwaith. Roedden nhw’n byw yn Llundain.

“Os chi’n gweld yr adroddiad ar ôl yr enquiry, oedd pawb yn yr ardal yn dweud bod nhw’n gwybod bod y gronfa yn gollwng - roedd hyd yn oed dyn heddlu yn dweud, ‘mae 'na rywbeth yn anghywir yn fa’ma’.

“Da ni’n siarad am ddwy droedfedd mewn i’r graig, yn lle chwech. Mae’r argae bron yn eistedd ar y wyneb ar y pryd. Mae’n warthus, dweud y gwir, not fit for purpose.”

'Un peth ar ôl y llall'

Fe wnaeth y trychineb arwain at alwadau am wella diogelwch argaeau, gyda’r aelod seneddol lleol yn eu harwain.

Bum mlynedd wedi’r trychineb, fe gafodd y Ddeddf Cronfeydd 1930 ei phasio gan y Llywodraeth San Steffan. Roedd y ddeddf yn sicrhau bod rheoleiddio mewn lle ar gyfer argaeau, gan gynnwys archwiliadau ac adroddiadau rheolaidd ar gronfeydd oedd yn dal dros 5 miliwn o alwyni o ddŵr.

Image
Trychineb Dolgarrog2.jpg
Fe gafodd cerrig hyd at 10 tunnell o faint eu cludo gan y llif o ddŵr o'r ddau argae (Llun: Gwasanaeth Archif Conwy)

Ond gan fod 13 o fethiannau argae cronfeydd dŵr wedi bod rhwng 1799 a trychineb Dolgarrog yn 1925, gyda 411 o bobl yn marw o ganlyniad, mae Mr Greatrex yn credu bod y ddeddf 131 mlynedd yn rhy hwyr yn cael ei mabwysiadu.

“Fel ymhob trychineb, mae 'na mwy nag un peth yn digwydd cyn y trychineb. Os ti’n dilyn enghraifft Aberfan neu’r Titanic, mae’n un peth ar ôl y llall. Mae’n rhyw fath o combination bob tro," ychwanegodd.

“Yn yr achos yma, y combination oedd esgeulustod gan y llywodraeth am dros 100 mlynedd heb ddeddf cronfeydd dwr. 

“Roedd yr aelod seneddol yn gandryll am doedd neb yn y llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb. Roedd yn siarad yn 1925 yn San Steffan, ond roedd dros 131 mlynedd wedi mynd heibio cyn i unrhyw beth yn cael ei wneud.

"Bydde drychineb hyn dal wedi gallu digwydd hyd yn oed hefo’r ddeddf, ond gyda’r checks a cross-checks, byddai llawer llai o bosibilrwydd.”

Image
Trychineb Argae Dolgarrog.jpeg

Fel archwilydd argaeau gogledd Cymru, fe wnaeth Mr Greatrex fyw ym Mhorthaethwy am 25 mlynedd, gan wasanaethu fel cynghorydd tref, gweinidog anrhydeddus a llywodraethwr ar Ysgol David Hughes.

Mae bellach yn byw yn Llandysul, ond mae’n dweud ei fod yn parhau i deimlo cysylltiad cryf gydag ardal Dolgarrog.

“Oedd e’n ofandw. Os ti’n colli unrhyw un yn y teulu, mae 'na donnau yn mynd mas yn yr ardal, ffrindiau ac yn y blaen.

“Wrth gwrs mae pobl yn y pentref yn meddwl am y pobl sydd wedi marw. Ond ar yr ochr diogelwch, mae’n rhaid dysgu bod rhaid i ni gadw llygad arnyn nhw blwyddyn ar ôl blwyddyn, oherwydd mae 'na peryg dweud y gwir.”

Lluniau: Gwasanaeth Archif Conwy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.