Trên wedi mynd oddi ar y cledrau yn Cumbria
Mae pedwar o bobl wedi cael mân anafiadau ar ôl i drên fynd oddi ar y cledrau rhwng Llynnoedd Gogledd Penrith a Llynnoedd Oxenholme yn Cumbria, Gogledd Lloegr.
Roedd 87 o bobl, yn cynnwys 10 aelod o staff ar y trên o Glasgow i Euston, Llundain, pan aeth i drafferthion ger pentref Shap fore Llun.
Fe ddaeth y trên oddi ar y cledrau tua 06:10.
Cafodd teithwyr eu cludo i westy cyfagos.
Dywedodd cyfarwyddwr y gwesty wrth y BBC bod rhai o'r teithwyr "mewn sioc".
Mae Avanti West Cost wedi dweud eu bod yn darogan y bydd yna "oedi i'w gwasanaethau am nifer o ddyddiau" ac mae rhybudd i bobl beidio teithio i'r gogledd o Preston ddydd Llun.
Yn gynharach fe ddywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cyrraedd yno a'u bod yn cydweithio gyda'r gwasanaethau argyfwng eraill.
Eu blaenoriaeth oedd rhoi cyngor meddygol i bobl medden nhw.
