Newyddion S4C

Covid-19: Cofnodi pedair marwolaeth yn rhagor ac 2,176 achos newydd

11/01/2022
Profi Covid-19

Mae 2,176 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cafodd pedair marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod. 

Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi gostwng yn sylweddol i 1,780.5. 

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent (2,174.3), Merthyr Tudful (2,073.7) a Rhondda Cynon Taf (2,060.0).

Roedd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (1,105.8), Ceredigion (1,159.6) a Gwynedd (1,364.0)

Mae 729,662 achos positif a 6,654o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.

Hyd yma mae 2,497,658 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,328,295 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,740,099 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.