Ken Owens i golli'r Chwe Gwlad gydag anaf i'w gefn

Mae disgwyl i Ken Owens golli cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni gydag anaf i'w gefn yn ôl WalesOnline.
Dydy'r bachwr heb chwarae ers mis Hydref pan gafodd y Scarlets ei trechu gan Leinster yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Mae Owens yn un o nifer o chwaraewyr profiadol Cymru sydd wedi'u hanafu cyn dechrau'r twrnamaint eleni.
Ni fydd y capten Alun Wyn Jones a'r blaenasgellwr Josh Navidi yn rhan o'r gystadleuaeth chwaith oherwydd anafiadau i'w ysgwyddau.
Mae'r Gweilch hefyd wedi cadarnhau nad yw hi'n debygol y bydd George North a Justin Tipuric yn iach ar gyfer y gemau agoriadol.
Mae Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf o'r gystadleuaeth yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar 5 Chwefror.
Darllenwch mwy yma.