
Dementia: Galw am newid y gyfraith i roi 'hawl dynol' i bobl weld eu teuluoedd

Dementia: Galw am newid y gyfraith i roi 'hawl dynol' i bobl weld eu teuluoedd
Mae Aelod Seneddol Cymreig yn galw am newid i'r gyfraith er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu parchu.
Ar hyn o bryd mae mam Liz Saville-Roberts yn cael triniaeth yn yr ysbyty.
Pe bai ei mam yn mynd i gartref gofal mae'r aelod dros Ddwyfor Meirionydd yn ofni na fydd hawl ganddi i ymweld â hi.
Fe gododd hi'r mater yn Nhŷ’r Cyffredin wythnos diwethaf.
Y llynedd, fe gafodd y Dr Nancy Saville strôc, ac wedi sawl codwm diweddar, mae'n bosib y bydd hi nawr yn gorfod mynd i gartref gofal.
Mae Dr Saville ar hyn o bryd mewn ysbyty a newydd gael diagnosis o dementia.
"Does gan rywun efo dementia ddim hawl dynol i weld eu teuluoedd", meddai Ms Saville-Roberts.
"Ma' 'na hawliau gan grwpiau eraill, ond dyma ni un o'r grwpiau sy' 'di dioddef mwya' yn ystod y cyfnod Covid.
"A dwi yn meddwl, gwirioneddol, bod amser i ni newid hynny".

'Anodd iawn'
Nid yw'r profiadau yma yn unigryw chwaith.
Mae teulu Elaine John o Frynaman yn dymuno ei chofio ym mlodau ei dyddiau, a hithau erbyn hyn â dementia.
Am gyfnod y llynedd, nid oedd ei brawd yn cael mynd i'w gweld.
Erbyn hyn, mae Brian Humphreys yn cael mynd i weld ei chwaer, ond mae'n rhaid trefnu dros y ffôn o flaen llaw, a dydy hynny ddim bob tro'n bosib.
"Fe gaeodd y cartref a o'n i ddim yn cael mynd lawr o gwbl", meddai.
"A mae hwnna'n anodd iawn chi 'mod".
Mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn dweud fod gan deuluoedd yr hawl i ymweld â chartref gofal hyd yn oed os oes achosion o Covid-19 yno.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r canllawiau yn glir – y dylai pob cartref gofal geisio cefnogi ymweliadau dan do, gan reoli risg.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn ceisio datrys y broblem fod perchnogion cartrefi gofal yn methu cael yswiriant.