Ysgolion yn ail agor: ‘Bydd hi'n gyfnod heriol dros yr wythnosau nesaf'

Ysgolion yn ail agor: ‘Bydd hi'n gyfnod heriol dros yr wythnosau nesaf'
Wrth i ysgolion Cymru ail agor wedi’r Nadolig mae pennaeth ysgol uwchradd yn y gogledd yn rhagweld y bydd yr wythnosau nesaf yn “gyfnod heriol.”
Mae pryderon y bydd achosion Covid-19 yn golygu prinder athrawon.
Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd Trefor Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd y Creuddyn ym Mae Penrhyn ger Llandudno bod rhaid paratoi ar gyfer sgil effeithiau Covid-19 ar ysgolion.
“Da ni'n gobeithio wrth gwrs na fydd o'n cael gormod o effaith, ond ma' rhaid i ni sicrhau bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer hynny.
“Y cwestiwn mawr amwn i ydi faint o broblemau sydd angen bod i addysg plant? A faint o broblem o ran absenoldeb sydd angen bod cyn bod 'na ystyriaeth symud at y cynllun wrth gefn?
“Ma' hwnna'n gwestiwn dwi'n meddwl sydd angen i ateb yn sydyn iawn, er mwyn sicrhau sicrwydd nid yn unig ar gyfer y bobl ifanc o ran gallu paratoi, ond hefyd ar gyfer y staff fydd yn gorfod newid a pharatoi ar gyfer hynny wrth symud ymlaen hefyd.”
Cafodd 11,693 yn rhagor o achosion o Covid-19 eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun.
‘Isio fo fod drosodd rŵan'
Wedi cyfnodau o addysg ar-lein oherwydd cynfyngiadau Covid-19, mae’r disgyblion yn y Creuddyn hefyd yn poeni am y cynnydd mewn achosion.
“Yn amlwg yn y wers gyntaf heddiw oedd rhaid i'r ffenestri fod yn agored a oedd yr ystafell yn andros o oer, a ma' jyst yn cael effaith arnom ni'n canolbwyntio mewn ffordd ac oedd pawb yn teimlo'r un peth.
“Ar y funud 'da ni'n ymwybodol bod yr arholiadau'n mynd ymlaen ond dwi'm yn siŵr os ma' huna di'r dewis gorau i neud ar y funud oherwydd y sefyllfa,” meddai Beth, disgybl blwyddyn 13.
Ychwanegodd Lwsi, disgybl arall ym mlwyddyn 13 bod yr addysg yn ystod y pandemig yn “rhoi straen arnom ni achos o ddydd i ddydd 'da ni ddim yn gwybod be sy'n mynd ymlaen.
"Fysa'r newyddion yn gallu newid fory. Jyst yn teimlo bod o'n dragio allan, jyst isio fo fod drosodd rŵan.“