
Darlledwraig yn codi pac am Costa Rica gyda’i theulu ifanc
Ar ddechrau 2022 mae’r ddarlledwraig Nest Williams, ei gŵr, a’i phlant ifanc wedi penderfynu gadael Cymru i fyw yn Costa Rica am gyfnod, a dwyn ar y cyfle i fynd i deithio.
Yn llais adnabyddus ar fwletinau Newyddion S4C a BBC Radio Cymru, mae cynlluniau Nest a’i theulu i deithio wedi bod ar waith ers blynyddoedd, ond oherwydd Covid-19 roedd yn rhaid addasu ychydig ar y daith.
Wrth benderfynu ar leoliadau roedd mynediad at addysg i’w phlant, Moi sy’n 10 oed a Medi sy’n wyth oed yn ffactor bwysig i Nest a’i gŵr, Ian.
“I Awstralia oeddan ni wedi bwriadu mynd, ond fe ddaeth hi’n amlwg na fyddai hynny yn digwydd eleni yn sgil y cyfyngiadau. Felly dyma chwilio am wlad arall fyddai’n boeth ym mis Ionawr, efo cyfyngiadau mynediad llai llym nag Awstralia, a ble byddai hi’n bosibl i’r plant gael addysg am gyfnod byr. A Costa Rica ddaeth i frig y rhestr!”

Bellach, mae Nest a’i theulu wedi symud i Costa Rica yng Nghanolbarth America ers dechrau’r flwyddyn, ac yn byw yn nhalaith Guanacaste ar yr arfordir am y tro. Yno bydd Moi a Medi’n mynd i ysgol ryngwladol ym mhentref Sámara.
“Byddan nhw’n dilyn cwricwlwm rhyngwladol yn y bore, ac yna yn cael gwersi Sbaeneg dwys yn y prynhawn,” meddai Nest.
“Dros y cyfnod - mi fydd eu gafael nhw ar yr iaith yn gwella yn arw - dyna’r gobaith. Byddaf i ac Ian y gŵr hefyd yn mynd i gael gwersi Sbaeneg yma bob dydd - yn y gobaith o adeiladu ar y sgiliau Duolingo yr ydan ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers blwyddyn!”
‘Dangos rhai o ogoniannau’r byd i’r plant’
Yn ôl Nest, roedd teithio yn 2022 wedi bod yn fwriad gan y teulu ers tro.
“Mae’r plant yn dal yn ddigon bychan a ddim yn sefyll arholiadau, ac felly ddylai cyfnod o gael addysg dramor ddim amharu yn ormodol arnyn nhw… yn hytrach, gobeithio y bydd yn cyfoethogi eu profiadau.
“Byr iawn ydi’r cyfnod lle gellir mynd â nhw ar daith fel hon, ac os oedd y cyfle dal ar gael i ni, a’i bod hi’n ddiogel i wneud hynny, roeddem ni am lynu at ein cynlluniau.”
Mae hi’n gobeithio bydd y profiad o fyw a theithio dramor yn “dangos rhai o ogoniannau’r byd i’r plant a hwythau yn yr oed delfrydol i fwynhau a gwerthfawrogi.

“Mae Costa Rica yn wlad mor brydferth, trofannol, a’r bywyd gwyllt yn llythrennol ar garreg y drws.
“Mae yna fwncïod, racoons ac iguanas yn byw y tu allan i’r tŷ ble rydan ni’n aros - ac mae’r cyfoeth o adar sydd yma, gan gynnwys pelicaniaid, yn rhyfeddol.
“Mae cymaint mwy i’w weld yma nad ydan ni wedi cael cyfle i’w weld eto. Trip i’r jyngl a’r fforestydd, allan i’r môr i weld y dolffiniaid - mae’r bioamrywiaeth ymhobman.”
Nid dim ond prydferthwch a'r tywydd braf oedd yn apelio am Costa Rica, ond y ffordd o fyw hefyd.
“Mae’n wlad sy’n ddiweddar wedi ei chlodfori am fod yn ecolegol - mae gwersi i’w dysgu o hynny. Mae poteli gwydr a phlastig yn cael eu dychwelyd i’r archfarchnadoedd yma - a dim gwastraff plastic i’w weld ar y traethau.”

Hel pac yn ystod pandemig
Er i’r teulu gynllunio’r daith ers peth amser, mae cyfyngiadau Covid-19 wedi taflu heriau ychwanegol wrth hel pac.
“Mae Covid wastad yn gorfod bod yn ystyriaeth ble bynnag yr ydan ni’n mynd. Ac mae’r pandemig yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i addasu a newid trefniadau o hyd.
“Heb os, mae cael y pasys penodol i fynd i mewn i wledydd yn ychwanegu lot at y paratoadau. A’r ansicrwydd y bydd pethau yn newid o hyd.
“Roeddan ni wedi gobeithio mynd lawr i’r Wladfa ym Mhatagonia ar ôl hyn i ddysgu’r hanes i’r plant ac i weld y Gymraeg ar waith yno, ond mi benderfynon ni bod angen croesi gormod o ffiniau i gyrraedd yno, ac y byddai taith symlach yn ddoethach.”
Ond mae’r teulu yn benderfynol o wneud y mwyaf o’u taith er gwaethaf Covid-19, a theithio o gwmpas arfordir dwyreiniol America sydd nesaf ar eu rhestr ar ôl eu cyfnod yn Costa Rica.
“Pan wnaeth Ffrainc wahardd teithwyr o Brydain cyn y Nadolig, wnes i erioed feddwl y byddai hi’n bosibl i ni gyrraedd yma. Felly rydan ni’n cyfrif ein hunain yn eithriadol ffodus ein bod ni wedi llwyddo i gyrraedd yma o gwbl dan yr amgylchiadau.
“Felly rydan ni am geisio gwneud y gorau o’r cyfle ffodus yma, cadw’n ddiogel a cheisio gwerthfawrogi bob cyfle ddaw.”