Mark Drakeford yn cyhuddo Lloegr o beidio dilyn cyngor gwyddonol dros Covid

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhuddo llywodraeth Boris Johnson o beidio â dilyn cyngor gwyddonol dros Covid.
Ar raglen Trevor Phillips ar Sky fore Sul, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn “gwrthod yn gyfan gwbl” honiadau gan weinidogion y DU fod cyfyngiadau yng Nghymru yn niweidio economi Cymru.
Dywedodd Mr Drakeford ni ellir gwahanu iechyd cyhoeddus â’r economi.
Ychwanegodd: “Mae’r mesurau ry' ni’n cymryd i amddiffyn iechyd cyhoeddus yn gwmws y rhai sy’n amddiffyn yr economi.”
Darllenwch y stori yn llawn yma.