Saith o bobl wedi marw ar ôl i graig gwympo ar gychod ger rhaeadr ym Mrasil

Mae saith o bobl wedi marw ar ôl i graig enfawr gwympo ar longau yn cario twristiaid ger rhaeadr ym Mrasil yn Ne America.
Yn ôl The Independent, torrodd y graig yn rhydd o wal ceunant gan gwympo ar ben cychod oedd yn cario ymwelwyr o dan raeadr yn Llyn Furnas ger Capitólio yn ne ddwyrain y wlad.
Suddodd o leiaf un o’r cychod ond llwyddodd eraill i yrru i ffwrdd.
Cafodd 32 o bobl eu anafu, gan gynnwys naw yn ddifrifol, yn ystod y digwyddiad.
Mae awdurdodau yn parhau i chwilio am dri arall sydd ar goll.
Darllenwch y stori yn llawn yma.
Llun: AFP / Wochit