Covid-19: Rhybuddio Boris Johnson yn erbyn cael gwared ar brofion llif unffordd am ddim

Sky News 09/01/2022
Prawf Llif Unffordd Covid-19

Mae’r Blaid Lafur a Phrif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio Boris Johnson yn erbyn cael gwared ar gyflenwadau o brofion llif unffordd am ddim. 

Daw'r rhybuddion yn sgil adroddiadau bod y profion am gael eu cyfyngu i fannau risg uchel megis cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion. 

Yn ôl adroddiad yn y Sunday Times mae yna bryderon ymysg y llywodraeth dros gost darparu'r profion am ddim. 

Dywedodd Nicola Sturgeon y byddai cael gwared ar y profion am ddim yn "hollol anghywir". 

Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol dros Iechyd y Blaid Lafur, Wes Streeting, fod y cynlluniau yn "wirion". 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.