Rhedwyr yn ymgynnull yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn canslo digwyddiadau ‘Parkrun'
Daeth grŵp o redwyr ynghyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn canslo digwyddiad ‘Parkrun’.
Fe wnaeth trefnwyr ‘Parkrun’ ganslo digwyddiadau yng Nghymru oherwydd cyfyngiadau Covid-19 oedd yn gwahardd mwy na 50 o bobl rhag ymgynnull tu fas.
Er nad yw'r cyfyngiadau yn gwahardd digwyddiadau 'Parkrun' yn uniongyrchol, dywedodd trefnwyr nad oedden nhw yn gallu gwarantu na fyddai llai na 50 o bobl yn dod at ei gilydd.
Yn ôl WalesOnline, aeth y grŵp o redwyr o amgylch cwrs arferol ‘Parkrun’ Caerdydd, lle mae cannoedd o redwyr fel arfer yn cymryd rhan.
Dywedodd y trefnydd Andrew Fairclough y byddai wedi rhannu’r rhedwyr mewn i grwpiau llai os fyddai mwy na 50 o redwyr wedi ymddangos.
Darllenwch y stori'n llawn yma.