Newyddion S4C

Covid-19: Neges 'dorcalonnus' dyn heb ei frechu i'w deulu cyn marw

08/01/2022
Stephen Doyle

Mae neges gan ddyn oedd yn marw o gymhlethdodau Covid-19 wedi datgelu y byddai wedi "gwneud unrhywbeth" i gael brechiad.

Fe wnaeth Stephen Doyle, 45 oed, anfon y neges destun at ei gyn bartner Nichola, sydd yn fam i dri o'i blant.

Mae marwolaeth Stephen, oedd heb ei frechu ond a oedd fel arall yn iach, fu farw o gymhlethdodau Covid-19 ar 3 Ionawr, wedi “dinistrio” ei berthnasau a’i ffrindiau.

Siaradodd ei gyfnither Michelle Pierce, ymarferydd nyrsio yn Ysbyty Llandudno, ar ran y teulu.

Dywedodd eu bod yn dymuno i bobl sylweddoli bod coronafeirws yn effeithio ar bobl iau, iach nad ydyn nhw wedi cael eu brechu - a’u teuluoedd hefyd.

“Pan oedd Stephen yn yr ysbyty, tecstiodd ei gyn bartner Nichola a dweud: 'Rwy’n mynd i gael y pigiadau cyn gynted ag y gallaf i’.

“Dywedodd nad oedd fyth am brofi hynny eto. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gael ei frechu. Roedd hi'n rhy hwyr iddo.

“Roedd yn erbyn y brechiad cyn iddo fynd i mewn a buaswn yn dweud bod yr holl siarad ar gyfryngau cymdeithasol wedi dylanwadu arno."

Roedd Mr Doyle eisoes wedi bod yn yr ysbyty oherwydd Covid-19 ond cafodd ei ryddhau â gwrthfiotigau ganol fis Rhagfyr.

Dywedodd Michelle: “Nid ydym yn gwybod os oedd wedi rhyddhau ei hun ai peidio ond roedd yn hunan-ynysu. Aeth ei gyn bartner Nichola i'w weld ar Ragfyr 22 a'i ganfod yn sâl iawn.”

Image
Neges testun
Neges gan Mr Doyle i'w deulu o'r ysbyty yn datgan y byddai'n ceisio cael ei frechu'n fuan ar ôl gadael 

Galwodd 999 ar unwaith ac fe gafodd Mr Doyle ei gludo i'r ysbyty gydag thrafferthion anadlu a lefelau ocsigen isel iawn yn ei waed.

O fewn 24 awr cafodd ei symud i uned therapi dwys yr ysbyty (ITU) ac ar ddydd Nadolig, gwnaed y penderfyniad i'w roi ar beiriant anadlu, i anadlu ar ei ran.

Ychwanegodd Michelle: “Gyda'r Flwyddyn Newydd yn nesáu, roedd y staff meddygol yn eithaf cadarnhaol ac yn ceisio ei gael oddi ar y peiriant anadlu ond roedd ei gorff yn ymladd hynny ac roedd yn rhaid iddynt stopio. Roedd angen anadlu mecanyddol arno o hyd i'w alluogi i barhau i anadlu.

“Cawsom alwad ar 2 Ionawr i ddweud fod ei gyflwr wedi dirywio.

“Ar 3 Ionawr, fe wnaethant ddweud wrth y teulu nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud. Felly fe wnaed y penderfyniad i ddirwyn y driniaeth i ben.”

Covid yn effeithio ar bawb

Dywedodd Michelle fod y teulu am i bobl ddeall nad yw Covid-19 yn effeithio ar bobl fregus yn unig.

“Mae angen i bobl wybod fod hyn yn digwydd i bobl iach. Os gallwn achub un person trwy eu perswadio i fynd i gael eu brechu, mae'n werth adrodd ein stori.

“Nid yw mam Stephen, fy modryb, yn dymuno i neb brofi'r hyn rydyn ni'n ei brofi. Nid oes angen i lawer o bobl brofi hyn, nag oes? Dylent fynd i gael eu brechu.

“Nid oedd symptomau difrifol gan yr holl bobl yr ydym yn eu hadnabod a gafodd eu brechu ond a ddaliodd Covid. Mae pobl yn credu pethau heb unrhyw dystiolaeth.

“Ewch i gael eich brechu ac atal eich teulu rhag profi'r hyn yr ydym ni fel teulu yn ei brofi - gellid ei osgoi. "

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons:  “Ni allaf ond cynnig cydymdeimlad â Michelle a'i theulu yn eu colled drist.

“Rwyf hefyd am gydnabod eu dewrder yn meddwl am eraill mor fuan ar ôl colli rhywun annwyl.

“Wrth gwrs, maent yn llygad eu lle - cael cwrs llawn o frechiadau Covid yw'r ffordd orau o bell ffordd i amddiffyn eich iechyd yn ystod y pandemig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.