Newyddion S4C

Menyw ifanc yn annog pobl i gael brechlyn Covid ar ôl bod mewn coma

ITV Cymru 07/01/2022
Coma Covid

Mae menyw ifanc o’r Rhondda wedi gorfod ail-ddysgu sut i gerdded, siarad a bwyta o ganlyniad o ddal Covid-19, ddyddiau ar ôl iddi hi droi’n 22.

Pan wnaeth Ffion Barnett darganfod bod ganddi hi Covid-19, roedd hi’n meddwl ei bod yn ddigon ifanc ac iach i osgoi mynd yn ddifrifol wael.

Ar y pryd, doedd Ffion heb gael ei brechu, ac yn fuan ar ôl profi'n bositif fe wnaeth bethau waethygu wrth iddi gael trafferth anadlu. 

"Ni chefais fy mrechu oherwydd roeddwn i'n meddwl oherwydd fy mod i'n ifanc heb unrhyw amodau iechyd, roeddwn i'n ddiogel. Yn amlwg roeddwn i'n anghywir.”

Cafodd y fyfyrwraig marchnata  ei chludo ar frys i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant lle aeth hi mewn i goma am bum niwrnod. 

Yn dilyn hyn, roedd yn rhaid iddi ail-ddysgu sut i gerdded, siarad, bwyta a hyd yn oed gysgu.

"Cefais fy nerbyn i ICU ddydd Gwener 13 Awst - diwrnod gwych i gael eich derbyn.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd realiti neu beidio", meddai.

Datblygu niwmonia

Treuliodd bythefnos a phum niwrnod yn yr ysbyty, a datblygodd hi niwmonia fel canlyniad i ddal Covid-19. 

"Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn frawychus i'm teulu, ond mewn gwirionedd doeddwn i ddim mewn cyflwr i fod yn ofnus gan fy mod i gymaint allan ohoni.”

Un sgil-effaith anghyffredin o'r trawma o fod yn yr ICU oedd y ffaith fod Ffion wedi dechrau colli ei gwallt.

"Roedd gen i wallt hir, trwchus iawn. Wnes i ddim dechrau ei golli nes i mi ddod allan o'r ysbyty," esboniodd.

“Roedd yn anodd ar y dechrau ond fe gyrhaeddodd y pwynt lle wnes i ddeffro un bore a phenderfynu shafio fo i ffwrdd.”

Bellach mae Ffion wedi cael ei brechiad cyntaf a nawr mae’n annog eraill i gael eu brechu hefyd.

"Rydw i nawr eisiau codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y brechlyn a’r ffaith nad yw Covid yn beryglus i'r henoed yn unig - gall effeithio ag unrhyw un."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.