Rhybudd melyn am rew mewn mannau ddydd Gwener
07/01/2022
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru ddydd Gwener.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 15:30 a 23:59.
Gallai rhew ffurfio ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin ac fe all hyn arwain at ddamweiniau neu anafiadau.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Nedd Port Talbot, Powys, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.