Newyddion S4C

Seren Gogglebox y Parchedig Kate Bottley i gymryd rhan yn Iaith ar Daith

07/01/2022
Jason Mohammad a Kate Bottley - Llun Kate Bottley

Fe fydd un o sêr y gyfres deledu Gogglebox yn ymddangos ar y gyfres newydd o Iaith ar Daith.

Bydd y Parch. Kate Bottley, sydd bellach yn cyflwyno ar Radio 2 a Songs of Praise, yn ymuno â'r gyfres ddiweddaraf sy'n gweld selebs yn cael eu tywys o amgylch Cymru i ddysgu Cymraeg.

Y cyflwynydd Jason Mohammad, sy'n cyd-gyflwyno rhaglen Good Morning Sunday ar Radio 2 gyda Kate, fydd yn ei thywys ar ei siwrnai i ddysgu'r iaith.

Roedd y ddau yng Nghaerdydd ddydd Iau yn ffilmio'r gyfres mewn lleoliadau oedd yn cynnwys y tu allan i orsaf drenau Sgwâr Canolog.

Dyma fydd y drydedd gyfres o Iaith ar Daith i gael ei darlledu, gyda sêr gan gynnwys Chris Coleman, Adrian Chiles a Ruth Jones eisoes wedi cymryd rhan.

Mae disgwyl i Iaith ar Daith ddychwelyd am gyfres arall yn ddiweddarach eleni.

Llun: Y Parchedig Kate Bottley

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.