Newyddion S4C

Johnson yn ymddiheuro am beidio rhyddhau negeseuon am adnewyddu fflat Downing Street

Sky News 06/01/2022
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Mae prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson wedi cynnig “ymddiheuriad gostyngedig a didwyll” am fethu â datgelu negeseuon WhatsApp lle bu’n trafod cyllid i adnewyddu fflat Downing Street.

Mae wedi beio cael ffôn newydd am beidio â datgan y sgwrs.

Mae Johnson wedi cael ei feirniadu gan ei gynghorydd safonau annibynnol yn ystod ymchwiliad swyddogol i adnewyddu ei fflat yn rhif 11 Downing Street.

Ymddiheurodd Mr Johnson i'r Arglwydd Geidt nad oedd wedi gweld negeseuon y gwnaeth y Prif Weinidog eu cyfnewid ag un o noddwyr y Torïaidd, a dalodd am waith adnewyddu.

Dywedodd yr Arglwydd Geidt ei fod yn dangos parch "annigonol" at ei rôl.

Llun: Flickr Rhif 10

Mwy am y stori yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.