Cynlluniau gwerth miliynau i ehangu rheilffordd treftadaeth Y Bala

Mae rheilffordd treftadaeth wedi gwneud cais gwerth miliynau o bunnoedd i ehangu ei wasanaeth yng Ngwynedd.
Mae Rheilffordd Llyn Tegid wedi llunio cynllun gwerth £5m a fydd yn cynnwys adeiladu gorsaf newydd ger stryd fawr Y Bala.
Ar hyn o bryd, mae'r rheilffordd yn dod i derfyn ym Mhen-y-bont gan orfodi teithwyr i gerdded chwarter awr ychwanegol i gyrraedd y dref.
Yn ôl ITV Cymru, dywedodd cyfarwyddwr y rheilffordd y bydd y cynlluniau i ymestyn y trac gan dair i bedair milltir o fudd i fusnesau lleol Y Bala.
"Fe adawodd y trên olaf Y Bala yn 1966 ac mae'r dref wedi bod heb wasanaeth trên ers hynny," meddai Julian Birley.
"Mae hyn yn mynd i fod yn newid arwyddocaol i'r dref, budd sylweddol i'r economi, ac unwaith mae wedi ei adeiladu mae yma am byth oherwydd mae'n mynd i fod yn hollol gynaliadwy."
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn aros i'w cynlluniau gael eu cymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Ben Brooksbank