Newyddion S4C

1.3 miliwn o bobl yn y DU 'yn byw â symptomau Covid hir'

06/01/2022
Covid

Mae amcangyfrif bod gan 1.3 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig symptomau Covid hir.

Yn y cyfnod hyd at 6 Rhagfyr 2021, roedd 2.0% o'r boblogaeth wedi adrodd eu bod yn profi'r symptomau, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O'r rhain, roedd 40% wedi dechrau profi'r symptomau o leiaf flwyddyn yn ôl.

Mae'r data diweddaraf yn dangos fod 64% o bobl oedd yn adrodd symptomau Covid hir yn dweud eu bod yn effeithio ar eu gweithgareddau dyddiol, gyda 20% yn dweud eu bod yn effeithio "llawer" ar eu gweithgareddau dyddiol.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dweud ar eu gwefan fod symptomau Covid hir yn cynnwys blinder eithafol, prinder anadl, tyndra neu boen yn y frest, problemau gyda'r cof a chanolbwyntio ac anawsterau wrth gysgu.

Mae'r data yn awgrymu bod Covid hir yn fwyaf tebygol o effeithio ar bobl rhwng 35 a 69 oed, menywod, pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, pobl sy'n gweithio ym meysydd iechyd, gofal iechyd neu addysg neu bobl sydd eisoes ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio ar weithgaredd.

Dywed NICE, y corff sy'n cynghori'r GIG a sefydliadau iechyd a gofal eraill, nad oes tystiolaeth glir ar hyn o bryd i awgrymu am ba hyd mae symptomau Covid hir yn parhau.

Ers bron i flwyddyn bellach mae GIG Cymru wedi rhyddhau ap gwella o Covid i alluogi pobl i gofnodi ac i reoli eu symptomau dros gyfnod o amser.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.