Newidiadau i'r system brofi Covid-19 yn dod i rym
Mae newidiadau i'r system brofi Covid-19 wedi dod i rym mewn ymgyrch i sicrhau nad yw labordai yn cael eu gorlethu.
O ddydd Iau ymlaen, ni fydd rhaid i bobl heb symptomau sy'n profi'n bositif yn dilyn prawf llif unffordd gymryd prawf PCR i gadarnhau'r canlyniad.
Mae'r newidiadau hefyd yn golygu y dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi bod mewn cyswllt â phobl gyda Covid-19 gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnodau dau ac wyth o'u cyfnod hunan-ynysu.
Daw'r newidiadau wrth i'r galw am brofion PCR gyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws y Deyrnas Unedig yn sgil lledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Mae'r nifer o achosion Covid-19 yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed dros y dyddiau diwethaf ac fe gynyddodd y gyfradd achosion ymhob 100,000 o bobl i 2,133.4 ddydd Mercher.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae capasiti Cymru o ran profion Covid-19 wedi "cynyddu'n sylweddol" ond fod rhaid gwneud y newidiadau er mwyn lleihau'r pwysau ar y system.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r newid.
Teithio
Hefyd, ni fydd yn rhaid i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n teithio i Gymru o dramor wneud prawf Covid cyn gadael neu brawf PCR ar ôl cyrraedd.
Yn lle hynny, o ddydd Gwener, bydd gofyn iddyn nhw wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau ar ôl cyrraedd Cymru.
Ni fydd hi'n orfodol bellach i hunan-ynysu cyn cael canlyniad negatif, ond os yw'r prawf yn bositif bydd angen i deithwyr gael prawf PCR ac ynysu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r newidiadau i'r rheolau yn dod i rym o 04:00 ddydd Gwener 7 Ionawr.
Bydd profion llif unffordd yn cael eu derbyn fel profion ôl-gyrraedd o ddydd Sul, 9 Ionawr.
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn gwneud y newidiadau yn "anfoddog".
Pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru yn dal i gynghori yn erbyn teithio rhyngwladol os nad yw'n hanfodol.