Gohirio gêm y Dreigiau yn erbyn y Scarlets yn sgil achosion Covid-19
Mae gêm y Dreigiau yn erbyn y Scarlets ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig wedi ei gohirio yn sgil Covid-19.
Daeth cadarnhad brynhawn Mercher bod achosion positif o Covid-19 o fewn carfan y Dreigiau.
Mae Grŵp Ymgynghorol Meddygol y Bencampwriaeth wedi trafod gyda'r rhanbarth a dod i'r casgliad na fydd y gêm yn gallu mynd yn ei blaen.
Fe fydd dyddiad newydd ar gyfer y gêm, oedd fod i gael ei chwarae yn Llanelli ddydd Sadwrn, yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach.
Daw hyn wedi i nifer o gemau rygbi a phêl-droed gael eu gohirio yn sgil achosion o Covid-19, gan gynnwys y ddwy gêm ddarbi ar Ŵyl San Steffan.
Pe bai'r gêm wedi mynd yn ei blaen, mae'n debygol y byddai wedi ei chynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.
Mae cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru yn golygu nad oes modd i fwy na 50 o bobl fod yn bresennol i wylio gêm yn yr awyr agored.
Llun: Asiantaeth Huw Evans