Newyddion S4C

Galw am symud gemau chwe gwlad Cymru i Loegr i osgoi cyfyngiadau Covid-19

Wales Online 05/01/2022
Cymru yn codi tlws y Chwe Gwlad

Mae aelod blaenllaw o'r byd rygbi rhyngwladol wedi awgrymu y dylid symud gemau rygbi chwe gwlad Cymru i Loegr i osgoi cyfyngiadau Covid-19.

Daw sylwadau Syr Ian McGeechan yn dilyn adroddiadau bod trefniadau wrth gefn i chwarae gemau tu ôl i ddrysau caeedig.

Dywedodd Syr Ian fod y Ricoh Arena yn Coventry yn ddewis da a bod cae Newcastle yn ystyriaeth i’r Alban oherwydd dim ond 500 sy’n cael eu caniatáu ym Murrayfield ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Syr Ian nad oedd am weld stadiymau gwag ar gyfer “cystadleuaeth rygbi orau’r byd”.

Darllenwch y stori yn llawn yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.