Ymateb chwyrn yn Awstralia i roi eithriad meddygol i Novak Djokovic

Mae ymateb chwyrn yn Awstralia i benderfyniad i roi eithriad meddygol i Novak Djokovic gystadlu ym mhencampwriaeth tenis agored y wlad.
Mae rhif un y byd wedi gwrthod cadarnhau os ydyw wedi cael ei frechu yn erbyn Covid-19.
Roedd ei bresenoldeb yn y gystadleuaeth mewn amheuaeth oherwydd trefniadau brechu llym y wlad.
Dywedodd Djokovic ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod "ar ei ffordd" i Awstralia ar ôl derbyn eithriad meddygol.
Darllenwch y stori yn llawn yma.