Mwyafrif disgyblion Ceredigion i ddysgu o adref tan ddydd Llun
Bydd ysgolion Ceredigion yn anelu at ailagor i bawb i ddysgu wyneb yn wyneb ddydd Llun, 10 Ionawr 2022.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor Sir y bydd darpariaeth “dysgu o bell" ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion ddydd Gwener, 7 Ionawr 2022.
Ond bydd rhai grwpiau eraill o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion blynyddoedd 11 a 13 yn mynychu’r ysgol ddydd Gwener ar gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb.
Yn ôl y datganiad, mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i fod yn “eithriadol o uchel” ar gyfradd o 1,587 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gyda 1,154 o achosion yn cael eu hadrodd yn ystod y saith diwrnod diwethaf.
Dywed y Cyngor bod absenoldebau staffio cynyddol ar draws pob rhan o waith y Cyngor o ganlyniad i amrywiolyn Omicron.