Nifer o gynghreiriau pêl-droed Cymru i ail-ddechrau
Fe fydd timoedd yng nghynghreiriau Adran Gogledd, Adran De a chystadlaethau Cynghrair Ardal yn ail-ddechrau o ddiwedd yr wythnos.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd gemau yn gallu ail-ddechrau yn y cynghreiriau hyn o ddydd Sadwrn.
Fe fydd yn rhaid i glybiau ddilyn canllawiau CBDC a Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cyfyngu torfeydd i 50 tu allan neu 30 tu fewn.
Nid yw'r rheolau presennol yn caniatáu i dorfeydd fod yn bresennol mewn digwyddiadau chwaraeon proffesiynol neu elît, gan gynnwys Cynghreiriau Cymru.
Dywed y Gymdeithas fod diffyg torfeydd yn mynd i gael effaith ariannol "sylweddol" ar glybiau yng Nghynghreiriau Cymru.
Nid oes hawl gan glybiau'r Adran Premier gael torfeydd yn eu stadiymau ar hyn o bryd.
Dywed CBDC y bydd yn parhau i drafod gyda'r clybiau dan sylw cyn i unrhyw benderfyniadau pellach gael eu gwneud.
Ni fydd timoedd yn cael eu cosbi am orfod gohirio gêm oherwydd achosion positif o Covid-19 yn y garfan, yn ôl y Gymdeithas.
Llun: Cynghreiriau Cymru JD