Gwasanaethau brys yn ymateb i 'dân mawr' ar safle ger Aberystwyth
Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn ystâd ddiwydiannol ger Aberystwyth.
Roedd fflamau a mwg i'w gweld yn un o adeiladau Ystâd Glanyrafon yn Llanbadarn Fawr.
Mae'r ffordd sy'n rhedeg drwy'r ystâd ddiwydiannol ar gau oherwydd y tân.
FFORDD AR GAU | Mae'r heol yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth ar gau oherwyd tân yn yr ystâd ddiwydiannol. Rydym yn gofyn i trigolion lleol i aros tu fewn a i gadw ffenestri ar gau tan rhybudd pellach. Osgowch yr ardal tra rydym yn bresennol. Diolch. pic.twitter.com/ydJls2Npbk
— Heddlu Dyfed-Powys Police (@DyfedPowys) January 4, 2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl leol aros tu fewn ac i gadw ffenestri ar gau am y tro.
Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl osgoi'r ardal.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod criwiau o Aberystwyth a gorsafoedd cyfagos yn ymateb i "dân mawr" yn y lleoliad.
Lluniau: Mark Lewis