Newyddion S4C

S4C yn annog cynhyrchwyr i ystyried newid hinsawdd wrth greu rhaglenni

04/01/2022
teledu

Mae S4C wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i geisio annog cynhyrchwyr y sianel i ystyried newid hinsawdd wrth greu rhaglenni. 

Mae S4C wedi arwyddo cytundeb gydag 'albert', consortiwm o gwmnïau cynhyrchu a darlledu sydd yn hybu dulliau fwy cynaliadwy o greu cynnwys teledu. 

Daeth y cytundeb i rym ar 1 Ionawr, gan ei wneud yn orfodol i gwmnïau cynhyrchu ddilyn canllawiau amgylcheddol a chynaliadwyedd newydd wrth greu cynnwys i S4C. 

Bydd disgwyl i gwmnïau amcangyfrif eu hôl troed carbon er mwyn ceisio lleihau effaith cynyrchiadau ar yr amgylchedd. 

Fe fydd hyfforddiant hefyd ar gael i gynhyrchwyr gan 'albert' ynglŷn â'r oblygiadau o newid hinsawdd ar y diwydiant teledu a pha newidiadau gall cwmnïau cyflwyno er mwyn gwneud gwahaniaeth. 

Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Gyda newid hinsawdd mor dyngedfennol, mae'n holl bwysig fod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o'r ffordd y mae rhaglenni S4C yn cael eu cynhyrchu.

“Mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn cadw ein heffaith amgylcheddol mor isel â phosibl.

"Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ac annog y cynhyrchwyr rydym yn gweithio â nhw i roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd wrth gynhyrchu rhaglenni i S4C."

Ychwanegodd Dyfrig Davies, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, ei fod yn croesawu'r bartneriaeth newydd. 

 “Mae materion amgylcheddol yn gynyddol bwysig i aelodau TAC ac mae’n rhaid i liniaru newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog yn ein gwaith.

 "Rwy’n croesawu y cydweithio rhwng S4C a’r sector cynhyrchu teledu annibynnol i gyflwyno'r cynllun cynhyrchu cynaliadwy 'albert' yn ei threfn gomisiynu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.