Newyddion S4C

Menyw a phlentyn yn cael eu hachub o greigiau ar benrhyn Gŵyr

03/01/2022
Gwylwyr y Glannau

Cafodd menyw a phlentyn eu hachub gan hofrennydd oddi ar greigiau ar draeth ar benrhyn Gŵyr ger Abertawe. 

Cafodd Gwylwyr y Glannau Mwmbwls a'r RNLI eu galw i draeth Rotherslade ddydd Sul ar ôl i fenyw ddioddef anaf i'w phen ar ôl llithro ar y creigiau. 

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, roedd y fenyw a dau blentyn yn cerdded ar hyd y creigiau rhwng Rotherslade a Langland pan ddigwyddodd y ddamwain. 

Fe lwyddodd un o'r plant i ddychwelyd i'r traeth i chwilio am gymorth cyn i'r hofrennydd achub y fenyw a'r plentyn arall oddi ar y creigiau wrth i'r llanw ddod i mewn. 

Cafodd y fenyw a'r plentyn eu cludo i Ysbyty Treforys am driniaeth. 

Llun: Gwylwyr y Glannau Mwmbwls 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.