Ymgyrch yn codi £12,000 mewn un diwrnod wedi difrod i eglwys

Mae aelodau eglwys hanesyddol yng Ngheredigion "wedi'u synnu" ar ôl codi £12,000 mewn un diwrnod ar ôl i'r adeilad gael ei ddifrodi gan fandaliaid.
Roedd aelodau Eglwys y Grog ym Mwnt wedi gofyn wrth y cyhoedd am roddion ar ôl i'r adeilad gael ei ddifrodi dros gyfnod y Nadolig.
Yn ôl Nation.Cymru, dim ond £700 oedd wedi'i godi fore Sul cyn i'r ymgyrch gael ei rannu yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ond erbyn hyn, mae £12,000 wedi'i godi er mwyn trwsio'r difrod i'r eglwys.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Clive Davies, sydd yn arwain yr ymgyrch bod aelodau'r eglwys yn gwerthfawrogi'r haelioni ac "wedi'u synnu" gan yr ymateb i’r ymgyrch.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Darllenwch mwy yma.