UDA i 'ymateb yn gryf' petai Rwsia yn ymosod ar Wcráin

Milwyr Wcrain ar y ffin gyda Rwsia
Mae Arlywydd yr UDA wedi dweud y bydd ei wlad yn 'ymateb yn gwbl gryf' petai Rwsia yn ymosod ar Y Wcráin.
Mae tensiynau wedi cynyddu rhwng Washington D.C. a Moscow wrth i bron i 100,000 o filwyr Rwsia ymgynnull ger y ffin gyda Wcráin.
Yn ôl Al-Jazeera, fe wnaeth Yr Arlywydd Biden bwysleisio mewn galwad ffôn gydag Arlywydd Y Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, y bydd America yn gwrthsefyll unrhyw ymosodiad gan Rwsia.
Mae Vladimir Putin eisoes wedi rhybuddio Arlywydd yr UDA ddydd Iau yn erbyn gosod sancsiynau ar ei wlad.
Bydd swyddogion o'r ddwy wlad yn cwrdd ar 9 Ionawr yn Y Swistir i gynnal trafodaethau i geisio datrys y sefyllfa.
Darllenwch mwy yma.