Tân yn difrodi adeilad seneddol De Affrica yn Cape Town

Tân yn difrodi adeilad seneddol De Affrica yn Cape Town
Mae tân wedi achosi difrod sylweddol i adeilad seneddol De Affrica yn Cape Town.
Gwelwyd fflamau yn codi o do’r adeilad tua 05.30 fore Sul ond nid oes adroddiadau am unrhyw anafiadau hyd yn hyn.
Dechreuodd y tân mewn swyddfeydd yn yr adeilad cyn lledaenu i’r siambr seneddol.
Dywedodd llefarydd bod y tân bellach dan reolaeth a bod ymchwiliad i beth achosodd y digwyddiad.
Darllenwch fwy am y stori yma.