Gerwyn Price allan o bencampwriaeth dartiau’r byd

Mae’r Cymro Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd.
Fe gollodd Price, a enillodd y bencampwriaeth y llynedd, o bump set i bedwar yn erbyn Michael Smith o Loegr.
Mewn gêm agos iawn a chyffrous, llwyddodd Price, sy’n rhif un yn y byd, i orffen un gêm mewn naw o ddartiau sy’n gamp prin.
Cafodd Price gyfleoedd i ennill ond methodd i wneud hynny ar sawl achlysur yn rownd yr wyth olaf yn Alexandra Palace yn Llundain.
Darllenwch y stori yn llawn yma.