
Cynllun i ddelio gydag erydiad arfordirol yn sgil newid hinsawdd

Cynllun i ddelio gydag erydiad arfordirol yn sgil newid hinsawdd
Gallai pobl sy’n byw ar yr arfordir gael gwell amddiffynfeydd môr i helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd diolch i ddulliau newydd ar gyfer casglu a dadansoddi data.
Cafodd y Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru ei sefydlu yn 2019 i safoni’r data a gasglwyd ar draws arfordir Cymru er mwyn rhagweld tueddiadau tymor-hir yn well.
Mae'r tîm yn defnyddio offer fel dronau, camerâu a synwyryddion lidar i fonitro erydiad clogwyni a strwythur creigiau.

Dywedodd Gwyn Nelson, rheolwr y ganolfan, y bydd yn caniatáu i rheiny sy’n monitro’r arfordir wneud “penderfyniadau gwybodus am ei amddiffyn".
“Nid yw prosesau arfordirol yn cael eu cyfyngu gan ffiniau awdurdodau lleol felly mae angen i ni ddysgu beth sy'n digwydd yn y darlun ehangach, a 'dyn ni'n gwneud hynny nawr am y tro cyntaf.
“Yr hiraf y gallwn gasglu’r data hwn yn y dull safonol hwn, y mwyaf y gallwn ddeall a dehongli beth sy’n mynd i ddigwydd o ran tueddiadau tymor hir,” meddai.

Dywedodd Clive Moon, rheolwr peirianneg ar gyfer risg arfordirol a llifogydd Cyngor Sir Bro Morgannwg, fod gan y rhai sy’n byw ar lan y môr ddiddordeb gwirioneddol mewn sicrhau bod eu cartrefi yn cael eu hamddiffyn rhag risg.
Bydd y prosiect yn helpu i gadw pobl yn “wybodus am risgiau yn y dyfodol” i’w cartrefi, meddai, gan fod “gennym bellach fwy o reolaeth ar gywirdeb a dibynadwyedd ein harolygon".
Ychwanegodd y gallai preswylwyr sydd fwyaf tebygol o wynebu cwympiadau clogwyni, fel y tirlithriad mawr ar arfordir Nefyn ym mis Ebrill, gael eu rhagrybuddio.
“Yn anffodus ni allwn ragweld pryd y bydd cwympiadau clogwyni’n mynd i ddigwydd, gan fod hwnnw’n fater eithaf cymhleth, ond rydym yn cronni llun o ba mor debygol yw hi o ddigwydd mewn rhai ardaloedd a pha mor bell yn ôl y mae’n debygol o fynd ar y clogwyn, fel y gallwn rybuddio pobl,” meddai.
Yn gynharach eleni, rhybuddiodd ymgynghorwyr fod 2,126 eiddo yng Nghymru mewn perygl o erydiad môr a bod 36,000 mewn perygl o lifogydd arfordirol erbyn diwedd y ganrif os nad yw amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal.
'Môr yn bwrw'r wal'
Mae Huw Gosling, yn byw ger y môr ym Mhorthcawl. Mae’n dweud ei fod yn teimlo ei fod wedi’i warchod gan wybod bod morglawdd yn amddiffyn ei gartref ef a chartrefi eraill rhag llifogydd.
“Mae’r dŵr yn dod i’r wal, jyst i waelod y wal. Ond os ydi’r storm yn un fawr a bod y gwynt yn chwythu yn y ffordd cywir, weithiau ma’r môr yn bwrw’r wal ac mae’r gwynt yn chwythu fe drosodd,” meddai.
“'Sdim problem gydag e, jyst rhywbeth newydd i edrych arno.”

Yn ôl Mr Gosling, mae’r effaith y gall newid hinsawdd ei gael ar lefel y môr ac felly’r erydu sy’n digwydd yn rhywbeth mae’n meddwl amdano.
“Ni’n meddwl y bydyn nhw’n edrych ar ôl y wal yma. So os fydda nhw nawr yn cael mwy o ddata, fi’n sicr y bydd hynny’n dangos y bydd isie cadw’r wal a bod rhaid cadw’r wal a dyna beth fydd yn digwydd – gobeithio.”
Dywedodd Canolfan Monitro Arfordirol Cymru y bydd ei gwaith yn ystyried newid hinsawdd a’r effaith fydd hynny’n ei gael a lefelau'r môr yn codi.
Yn ôl Gwyn Nelson, rheolwr rhaglen y ganolfan, “rhaid i ni ddeall sut y gall newid hinsawdd a chodiadau yn lefel y môr effeithio ar [erydiad arfordirol a llifogydd] yn y dyfodol".
“Mae angen i ni gasglu’r data a fydd yn adeiladu dros amser ac yn rhoi syniadau mwy cywir inni o sut y gallwn ymateb i hynny.”

Dywedodd Mr Nelson fod mynd i ysgolion i siarad â phlant am risg arfordirol a newid hinsawdd yn gam arall i'r cyfeiriad cywir.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Ynys y Bari ac wedi datblygu rhaglen 14 gwers ar newid hinsawdd a’r arfordir."
“Maen nhw wedi bod yn edrych ar erydiadau arfordirol, yn edrych ac yn darllen y tywydd, y risg bosibl o lifogydd, a phethau y gallant eu gwneud i helpu i liniaru effaith newid hinsawdd.
“Rydyn ni wedi gwneud ychydig o bodlediadau ac wedi cael rhai arbenigwyr i alw i mewn i'r dosbarth sydd wedi bod yn wych, ac maen nhw wedi cysylltu ag ysgolion ledled y byd i rannu straeon am newid hinsawdd.”