
O Iwerddon i Dyddewi: Cynllun i greu llwybr newydd i bererinion

O Iwerddon i Dyddewi: Cynllun i greu llwybr newydd i bererinion
Mae'n bosib y bydd pererinion o Iwerddon yn ymweld gyda safleoedd sanctaidd yn Sir Benfro cyn bo hir yn sgil ymdrechion i greu llwybr newydd i bererinion rhwng Ferns yn Iwerddon a Thyddewi.
Yn ôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Pererindodau Prydain, Guy Hayward, mae yna gynnydd wedi bod mewn diddordeb mewn pererindota hyd yn oed ymhlith y rheini sydd ddim yn grefyddol.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Cyn i Covid daro, roeddwn i yn siarad gyda gohebwyr teithio, ac roedden nhw i gyd yn dweud bod gwyliau heb hedfan ar y ffordd. Hyd yn oed cyn Covid, roedd pobl yn chwilio am ystyr newydd ac fe gyflymwyd y broses."
Yn ôl Mr Hayward, mae pererinion yn gwario 42 ewro'r dydd ar gyfartaledd, tra ar grwydr, sydd 2.3 gwaith yn uwch na thwristiaid cyffredin.
Mae'r rhaglen Cysylltiadau Hynafol wedi ei noddi gan Gynghorau Sir Penfro a Swydd Llwch Garmon (Wexford), gyda chefnogaeth Ewropeaidd.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartneriaid yn y cynllun.
Tegryn Jones yw Prif Weithredwr y Parc.
Dywedodd: "Mae yna hen hanes o bererindota yn yr ardal yma. Mae hi bron iawn yn 900 mlynedd ers i'r Pab ddweud fod dau bererindod i Dyddewi yn gyfystyr i un i Rufain. Ni'n rhoi gwedd fodern arno fe.
"Mae tipyn o farchnad a chyfle i bererinion o Gymru ac Iwerddon ac ymhellach i deithio ar y llwybrau yma. Bydd y llwybr yn adnodd tymor hir sydd yn deillio allan o'r prosiect Cysylltiadau Hynafol."

Y gred yw bod Dewi Sant wedi ei eni ar safle presennol Capel Non ar gyrion dinas Tyddewi yn ystod y chweched ganrif.
Mae yna ffynnon sanctaidd ar y safle, sydd yn ôl rhai, yn medru iachau.
Nepell o'r safle mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Mae'n debyg bod Sant Aeddan wedi teithio o Iwerddon i Sir Benfro i astudio dan gyfarwyddyd Dewi Sant.
Mae Dr Simon Rodway yn Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Ni'n gwybod bod Aeddan yn fath o ddisgybl neu yn gydymaith o rywfath i Ddewi Sant. Mae'r dystiolaeth o Gymru ac Iwerddon yn cadarnhau hynny. Mae'n debyg bod y ddau yn reit agos a bod Aeddan wedi treulio cyfnod yng Nghymru gyda Dewi ac wedi dychwelyd i Iwerddon i sefydlu mynachlog yn Fern," meddai.
Fel rhywun sydd yn astudio'r cysylltiad rhwng y Wyddeleg a'r Gymraeg, mae Dr Rodway yn croesawu'r syniad o greu llwybr i bererinion rhwng y ddwy wlad.
Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod e'n syniad gwych iawn. Rwy'n gweithio yn y maes ac yn astudio'r cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru. Mae unrhyw beth sydd yn denu sylw'r cyhoedd am y cysylltiadau yma yn beth da."

Iain Tweedale yw cyfarwyddwr cwmni Journeying, sydd yn arwain teithiau cerdded i bererinion.
Dywedodd: "Y bwriad yw ail-greu'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol oedd yn bodoli flynyddoedd nôl drwy greu llwybr newydd i bererinion.
"Mae'n debyg y byddwn ni yn galw fe yn 'Ffordd Sant Aeddan a Dewi'.
"Roedd Sant Aeddan yn ddisgybl i Dewi, ac yn ymweld ag e yng Nghymru, ac roedd Dewi yn ymweld gydag Aeddan yn Iwerddon. Roedd Môr Iwerddon fel traffordd yr M4 bryd hynny!
"Ni'n creu llwybr newydd i bererinion o Ferns yn Swydd Llwch Garmon, i lawr yr arfordir i gyfeiriad Rosslare Fe fydd pererinion wedyn yn gallu neidio ar y fferi i deithio draw i Abergwaun. Y bwriad wedyn yw cerdded o Abergwaun i Dyddewi. Taith o rhyw 130km i gyd."
Yn ôl Christine Smith, Cyfarwyddwr cwmni teithio Guided Pilgrimage, does dim rhaid i chi fod yn grefyddol i fynd ar bererindod.
Meddai: "Mae'n denu pobl o bob math. Yn enwedig pobl sydd ar groesffordd mewn bywyd. Pan maen nhw'n dod ar bererindod, mae'n cael cyfle i gael seibiant o fywyd bob dydd, ac i weld bywyd o bersbectif gwahanol. Ry'n ni cyfeirio at bererindod fel rhywbeth ysbrydol, nid crefyddol."
Yn Iwerddon, mae yna gryn ddiddordeb yn y syniad o gael llwybr newydd rhwng y ddwy wlad.
John G O'Dwyer yw Cadeirydd Pilgrim Paths yn Iwerddon ac mae'n awdur ar lwybrau Pererinion yn Iwerddon.
"Rwy'n digwydd credu fod ei botensial yn anferth", dywedodd.
"Mae gyda ni nifer o lwybrau pererinion yn Iwerddon, ond dyma'r cyntaf fydd yn cydnabod fod pererindota dramor yn rhywbeth pwysig iawn i'r Gwyddel yn ystod yr Oesoedd Canol.
"Fe fydd yna apêl hefyd o gerdded mewn dwy wlad, ond heb orfod cerdded yn rhy bell. Mae gan y Gwyddelod berthynas arbennig gyda'r Albanwyr, y Cymry, pobl Cernyw a Llydaw am ein bod ni'n Geltiaid."