Cynnal angladd Archesgob Desmond Tutu yn Cape Town

Bydd Archesgob Desmond Tutu yn cael ei gladdu ddydd Sadwrn yn dilyn angladd gwladol yn Cape Town.
Bydd yn cael ei osod i orffwys yng Nghadeirlan St George yn y ddinas lle'r oedd yn aml yn pregethu yn erbyn apartheid ac anghyfiawnder hiliol.
Bu farw'r Archesgob ar 26 Rhagfyr yn 90 oed ac mae ei gorff wedi bod yn gorwedd yn yr eglwys ers hynny.
Yn dilyn y seremoni a gwasanaeth bydd ei gorff yn cael ei amlosgi a’i weddillion yn cael eu claddu tu ôl i'r pwlpid.
Dywedodd Arlywydd De Affrica Cyril Ramaphosa roedd Archesgob Tutu yn "dad ysbrydol ein cenedl newydd."
Darllenwch y stori yn llawn yma.