
“Ydy gadael i blant gael eu treisio yn bris y dylid ei dalu am Addysg Gymraeg?”
“Ydy gadael i blant gael eu treisio yn bris y dylid ei dalu am Addysg Gymraeg?”
Mae cyn-newyddiadurwr gyda rhaglen y Byd ar Bedwar wedi sôn am sut oedd “carfan fawr o Gymry Cymraeg amlwg” yng nghymoedd de Cymru yn “eilun addoli” John Owen, ac yn gwadu fod athro drama Ysgol Gyfun Rhydfelen yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mewn rhaglen ddogfen arbennig ar S4C nos Fercher, roedd Eifion Glyn yn trafod ei brofiad o ymchwilio i honiadau yn erbyn John Owen gan rai o ddisgyblion yr ysgol yn ystod yr 1980’au a’r 90’au.
“Mi oedd na rhai pobl yn dweud wrtha i yn gyhoeddus ei fod o’n ddieuog, a’i fod o’n cael ei erlid… a’i fod o wedi gwneud y cyfraniad gwiw ‘ma i Gymru.”
Ysgol Gyfun Rhydfelen oedd yr ail ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, ac yn ôl Eifion Glyn, roedd sefyllfa addysg Gymraeg yn fregus yng nghymoedd y de, ac y byddai “unrhyw sgandal wedi tanseilio’r ysgol yn llwyr.
“Ond ydi gadael i blant gael eu treisio yn bris y dylid ei dalu am addysg Gymraeg? Nonsens Llwyr.”
Eglurodd Eifion Glyn ei fod wedi siarad efo un ddynes oedd yn bryderus am gynnwys arholiad drama ei merch, gan ddisgrifio sgript yr arholiad fel un pornograffig. Roedd y ddynes wedi gwneud cwyn i’r ysgol, ond ni chafodd Owen ei ddwyn i gyfrif yn sgil y gŵyn.

Roedd John Owen yn athro drama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Fe gymerodd John Owen ei fywyd ei hun yn 2001, cyn sefyll ei brawf yn sgil y cyhuddiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn cyn disgyblion. Fe wnaeth hynny esgor ar ymchwiliad Clywch yn 2004, sef ymchwiliad gan Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd. Un o ganfyddiadau’r ymchwiliad oedd bod yr awdurdod addysg wedi taro bargen gydag Owen, oedd yn golygu ei fod yn gadael ei swydd heb wynebu proses ddisgyblu, cyn mynd ymlaen i gynhyrchu’r gyfres deledu Pam Fi Duw o 1997 hyd nes ei farwolaeth.
Dywedodd Eifion Glyn fod swyddogion o’r ysgol wedi cydnabod iddo ei bod yn bosib eu bod wedi gwneud cam gyda rhai o fechgyn oedd dan ofal Owen, mewn ymgais i geisio gwarchod enw da’r ysgol.
“Mae 'na ryw syniad yn y Gymry Gymraeg oherwydd y cefndir capelyddol ac yn y blaen, nad ydy Cymry Cymraeg yn gwneud pethau fel hyn - nad oes 'na ddim crooks – ond mae ‘na drwch o hyd byswn i’n ddweud yn meddwl fod Cymry Cymraeg , Gwlad y Menig Gwynion – ac nad oes 'na droseddau fel hyn yn digwydd yma.”