Newyddion S4C

Prosiect 'Bwyd Dros Ben' yn lleihau gwastraff wrth fwydo cannoedd ym Mhowys

Newyddion S4C 01/01/2022

Prosiect 'Bwyd Dros Ben' yn lleihau gwastraff wrth fwydo cannoedd ym Mhowys

Mae prosiect ym Mhowys sy’n dosbarthu bwydydd dros ben o archfarchnadoedd wedi atal mwy na 8 tunnell o fwyd rhag mynd i wastraff mewn dim ond dau fis.

Dechreuodd Prosiect Bwyd Dros Ben y Drenewydd ddiwedd mis Hydref ac mae wedi arbed 8.5 tunnell o fwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan helpu i fwydo 681 o bobl yn y broses.

Nawr, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y prosiect yn dweud eu bod yn gobeithio ehangu yn 2022 gyda chymorth grant gan y loteri.

Ym mis Rhagfyr clywodd y prosiect ei fod wedi'i gymeradwyo ar gyfer £100,000 o gyllid a fydd yn ei alluogi i gyflogi staff yn lle dibynnu ar wirfoddolwyr. 

Dywedodd Vicky Rowe, a dechreuodd y prosiect, bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Mae'n cymryd llawer o oriau i redeg y math hwn o brosiect, felly mae angen rhai aelodau staff cyflogedig - trefnydd ar gyfer y gwirfoddolwyr a chogydd hefyd.

Image
Vicky Rowe
Dechreuodd Vicky Rowe y prosiect ar ôl cymryd rhan mewn un tebyg yn Aberystwyth

"Mae llawer o fwyd sy’n dod i mewn yn hwyr yn y nos yn agos at y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ac mae angen i ni ei goginio, a’i gael i mewn i’r rhewgelloedd.

“Ond bydd angen i ni (hefyd) ehangu i adeiladau mwy o faint. Mae yna oergell fawr ar gael ac ry’n ni am gael hwnnw ar waith. Bydd hynny'n newid y gêm i ni oherwydd gellir storio llawer o'r cynnyrch ffres yno.”

'Ymgais positif'

Mae gan y prosiect drefniant gydag archfarchnadoedd yn y Drenewydd a’r Trallwng - mae gwirfoddolwyr yn mynd i’r siopau yn agos at yr amser cau i gasglu'r bwyd dros ben

Mae'r prosiect yn didoli'r bwyd ac yn gwneud pecynnau i'w casglu ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Dechreuodd y prosiect fel ymgyrch i leihau gwastraff bwyd, ond ers dechrau mae'r Ms Rowe wedi gweld sut mae'r parseli bwyd wedi bod yn diwallu angen cymdeithasol.

“Rhywbeth sydd wedi fy synnu’n fawr yw faint o bobl sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Maen nhw ar garreg eich drws - pobl sy'n gweithio hefyd. Maen nhw'n gorfod dewis rhwng rhoi tanwydd yn y car a rhoi'r gwres ymlaen a rhoi bwyd ar y bwrdd. Mae'n frawychus.”

Dywedodd Elwyn Vaughan, cynghorydd ym Mhowys sy’n cefnogi’r prosiect: “Mae tlodi yn rhywbeth cuddiedig yn aml iawn - mae pobl yn gwneud y camgymeriad o feddwl bod popeth yn iawn gyda phobl mewn swyddi, ond dyw hynny ddim bob amser yn wir."

Image
Ymgyrch wyd
Mae gwirfoddolwyr yn rhedeg y prosiect

"Felly mae hyn yn ymgais positif i geisio rhyddhau rhywfaint o’r pwysau."

“Wrth gwrs mae na draddodiad hir o weithio er lles y gymdeithas yma yn y Drenewydd. Mae’n 250 o flynyddoedd ers geni Robert Owen, tad y mudiad cydweithredol yn y Drenewydd, felly mae’n addas iawn bod cynllun o’r fath yn digwydd yn y dref yma.” 

Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cultivate, cwmni cydweithredol sy'n anelu at gryfhau yr economi bwyd leol yn y Drenewydd.

Dywedodd Richard Edwards o Cultivate fod y prosiect wedi esblygu’n gyflym o fod yn un a oedd yn anelu at leihau gwastraff bwyd i fod yn achubiaeth i lawer o bobl y dref.

“Yn y bôn rydym yn cymryd problem amgylcheddol sef gwastraff bwyd a’i droi’n ddatrysiad cymdeithasol, sy'n sicrhau ei fod ar gael i unrhyw un yn y gymuned," meddai.

"Efallai mai dim ond ychwanegiad ydyw at y bwyd sydd yn y ty, efallai ei fod yn darparu llawer o'r hyn sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd, ond gall unrhyw un dipio i mewn a chymryd yr hyn sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt."

'Edrych ar ein holau'

Mae'r prosiect yn wahanol i fanc bwyd yn yr ystyr nad oes angen cael eich cyfeirio ato, does dim cyfyngiad ar faint o weithiau y gallwch ymweld chwaith.

Ffoadur o Syria yw Seba sydd wedi byw yn y Drenewydd ers 5 mlynedd.

Dywedodd fod casglu bwyd o'r prosiect wedi gwneud iddi deimlo'n rhan o'r gymuned .

“Mae'n brosiect newydd, mae'n ddefnyddiol iawn. Jyst am eu bod nhw’n edrych ar ein holau. Ffoaduriaid ydyn ni, ac ry’n ni'n teimlo bod rhywun yn poeni amdanon ni."

Image
Seba
Dywedodd Seba bod y prosiect yn helpu'r gymuned

“Mae hynny’n fy ngwneud i'n hapus yn fwy na'r bwyd. Mae gen i'r ffrindiau hyn i gyd, ffrindiau hyfryd. Rwy'n cymryd ychydig o datws, rhai afalau, rhai mefus - mae'n braf iawn.”

Pensiynwr yw Arfon sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Mae’n dweud ei fod yn casglu bwyd o’r prosiect er mwyn osgoi llefydd prysur.

“Dw i newydd ddod allan o’r ysbyty felly dwi ddim eisiau cymysgu gormod â phobl yn y siopau. Hefyd, rydw i ar bensiwn felly mae hyn yn helpu llawer, mae'n ymddangos bod bwyd yn mynd yn ddrytach bob dydd."

Yn ogystal â’i roi i unigolion mae'r bwyd dros ben hefyd yn mynd i brydau bwyd a wneir gan Gaffi Cymunedol y Drenewydd.

Cyn Covid byddai’r caffi yn paratoi pryd tri chwrs i bobl mewn eglwys leol - ond ers i’r pandemig ddechrau mae’r bwyd wedi cael ei ddosbarthu fel ‘pryd ar glud’ i gartrefi pobl.

Dywedodd Rhiain Selby, un o’r gwirfoddolwyr sy’n dosbarthu’r bwyd;“Dw i mor falch i fod yn rhan o’r prosiect yma - da ni’n safio gymaint o fwyd fyddai fel arall yn cael ei wastraffu, fyddai’n cael ei daflu i ffwrdd.

"Ac maen nhw’n coginio bwyd iachus iawn i’r bobl yma sydd ar ben eu hunain, yn unig ac yn gwerthfawrogi’r bwyd yn ofnadwy.

Image
Parseli bwyd
Mae bwyd yn cael eu casglu o archfarchnadoedd yn ystod y nos 

“Maen nhw’n cael tri chwrs - cawl ac wedyn cinio a phwdin, a weithiau mae na ryw fisgedi neu gacennau gan ddibynnu beth sy wedi cael ei roi gan yr archfarnadoedd.”

Dywedodd Vicky Rowe ei bod yn gobeithio y bydd y prosiect yn tyfu yn 2022. Ac, er gwaetha’r llwyddiant gyda’r grant loteri, mae’n awyddus i weld mwy o wirfoddolwyr yn ymuno.

“Fe allwn ni bob amser wneud gyda mwy o wirfoddolwyr. Mae angen gyrwyr arnom - mae natur bwyd dros ben yn golygu ei fod yn cael ei gasglu yn y nos, mae’r oriau bach yn wrthgymdeithasol."

“Hefyd ar gyfer y dosbarthu bwyd, mae angen i ni staffio hynny ac adnewyddu'r cynnyrch. Mae yna ddigon o gyfleoedd i wirfoddoli!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.