Llifogydd yn cau ffyrdd ar draws Cymru yn dilyn glaw trwm

31/12/2021
Tywydd garw

Mae nifer o ffyrdd wedi'u cau ar draws Cymru yn dilyn glaw trwm dros y 24 awr diwethaf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 12 o rybuddion llifogydd ar draws gogledd a de orllewin Cymru yma.

Roedd afon Conwy wedi gorlifo rhwng Llanrwst a Threfriw ac roedd y bont dros y Ddyfi ger Machynlleth wedi cau am rai oriau yn ystod ddydd Gwener.

Yn Sir Gaerfyrddin, roedd rhybudd ar gyfer afon Tywi ger Caerfyrddin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.