Newyddion S4C

Heddlu'n cynnal ymholiadau i adroddiadau o gam-werthu tocynnau pêl-droed

31/12/2021
CPD Wrecsam - Llun CPD Wrecsam

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud eu bod yn ymwybodol o achosion o unigolion yn ceisio gwerthu tocynnau i'w gemau i eraill am brisiau uwch na'r hyn sydd wedi'i hysbysebu.

Dywed y clwb eu bod wedi adnabod tri unigolyn sydd wedi ceisio gwerthu tocynnau, gan gynnwys un sydd wedi prynu "nifer o docynnau" a cheisio eu gwerthu i eraill.

Mae'r clwb wedi cysylltu â'r unigolion ac wedi canslo eu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Notts County ddydd Sul.

Mae manylion yr unigolion hefyd wedi eu cyfeirio at Heddlu'r Gogledd a dywed y llu eu bod yn parhau â'u hymholiadau.

Dywed y clwb ei bod yn cadw'r hawl i ganslo taliadau yn y dyfodol, a gallu cefnogwyr i gael mynediad i'r Cae Ras neu wefan docynnau.

Mae'r clwb yn gofyn i unrhyw un sydd wedi prynu tocyn am brisiau uwch i gysylltu â nhw am unrhyw bryderon.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Rydym wedi derbyn adroddiadau gan Glwb Pêl-droed Wrecsam am dri unigolyn yr amheuir eu bod yn ymwneud â thocio tocynnau.

"Rydym yn cysylltu â'r clwb ac mae ein hymholiadau i'r mater hwn yn parhau."

Llun: CPD Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.