Putin yn rhybuddio Biden yn erbyn cyflwyno sancsiynau ar Rwsia

Mae Vladimir Putin wedi rhybuddio Joe Biden i beidio â chyflwyno sancsiynau yn erbyn Rwsia yn sgil y sefyllfa ddiweddaraf yn yr Wcráin, yn ôl y Kremlin.
Bu arlywyddion Rwsia ac Unol Daleithiau'r America yn siarad â'i gilydd am 50 munud ar y ffôn ddydd Iau.
Mae tua 100,000 o filwyr Rwsia a chyfarpar milwrol wedi ymgynnull ar y ffin â'r Wcráin gan arwain at bryderon bod Moscow yn paratoi i ymosod.
Mae Rwsia yn gwadu hyn, ond wedi gofyn am gyfres o addewidion diogelwch gan wledydd y Gorllewin.
Daw'r argyfwng saith mlynedd wedi i luoedd Rwsia gyrraedd y Crimea a chymryd y rhanbarth oddi wrth yr Wcráin, yn ôl Sky News.
Darllenwch fwy yma.