Canslo helfa gyda chŵn yn sgil protestiadau

Bu’n rhaid canslo helfa draddodiadol gyda chŵn yn sgil protestiadau gan wrthwynebwyr.
Mae Helfa Glowyr Banwen, yn ardal Castell Nedd, yn cyfarfod ar Ŵyl San Steffan bob blwyddyn gyda’r cŵn hela yn dilyn arogl sydd wedi ei osod ar hyd llwybr arbennig ar eu cyfer ymlaen llaw.
Daeth hyn yn arferiad wedi i’r arfer o hela llwynogod gyda chŵn gael ei wahardd.
Er i hela llwynogod gyda chŵn fod yn anghyfreithlon ers 2004, mae ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid yn parhau i fynegi eu gwrthwynebiad i ddigwyddiadau sydd yn gysylltiedig â’r arferiad.
Nid yw'r helfeydd yn cael eu cynnal ar ddydd Sul, felly roedd y trefnwyr wedi bwriadu cynnal yr helfa hon ddydd Llun, 27 Rhagfyr.
Darllenwch fwy am y stori yma.