Gohirio gêm Abertawe yn erbyn Fulham yn y Bencampwriaeth

30/12/2021
pel droed

Mae gêm gartref Abertawe yn erbyn Fulham yn y bencampwriaeth ar 3 Ionawr wedi ei gohirio.

Mae hyn yn ychwanegol i’r gêm yn erbyn Luton oedd i fod i gael ei chynnal nos Fercher.

Roedd y ddwy gêm i fod i gael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd canllawiau Covid.

Dywedodd clwb Abertawe nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gyfarwyddyd eto pryd fydd y gemau yn cael eu hail chwarae.

Ychwanegodd y clwb y gobaith yw chwarae’r gemau pan fydd modd croesawu cefnogwyr yn ôl i’r stadiwm.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.