Newyddion S4C

Unigolyn o'r gogledd yn colli’r cyfle i fod yn filiwnydd

Wales Online 30/12/2021
Euromillions

Mae rhywun o Ynys Môn neu Wynedd wedi colli ar y cyfle i ddechrau’r flwyddyn newydd fel miliwnydd.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi ddydd Iau fod yr amser i hawlio gwobr o £1m ar yr EuroMillions wedi dod i ben.

Roedd y wobr yn deillio o’r Euromillions o 2 Gorffennaf ac roedd gan y person lwcus 180 o ddiwrnodau i’w hawlio.

Dywedodd Andy Carter o Camelot, sy’n uwch gynghorydd enillwyr i’r Loteri Genedlaethol: “Yn anffodus gallaf gadarnhau nad oes unrhyw un wedi dod ymlaen o fewn y terfyn amser, ac yn anffodus wedi colli allan ar ennill y swm sylweddol o arian.

“Bydd y swm yn cael ei ychwanegu at y £30 miliwn a godir yn wythnosol tuag at brosiectau a noddir gan y Loteri Genedlaethol ar draws y DU.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.