Newyddion S4C

Mali Elwy: Blwyddyn ers derbyn aren gan ei brawd

Newyddion S4C 30/12/2021

Mali Elwy: Blwyddyn ers derbyn aren gan ei brawd

Mae dynes ifanc o Sir Conwy wedi bod yn disgrifio ei gwellhad a'r "flwyddyn grêt" aeth heibio iddi, 12 mis ers derbyn aren gan ei brawd.

Cafodd Mali Elwy o Lansannan ddiagnosis o ganser pan oedd yn dair oed.

Ar ôl tynnu un aren adeg hynny, fe waethygodd cyflwr yr aren oedd ganddi ar ôl.

Ym mis Rhagfyr 2020 derbyniodd drawsblaniad aren gan ei brawd Morgan, a hynny ar ôl i’r llawdriniaeth gael ei chanslo ddwywaith oherwydd y pandemig.

Flwyddyn yn ddiweddarach mae wedi bod yn siarad â rhaglen Newyddion S4C am y profiad, a sut mae'n teimlo erbyn hyn.

“Dros y flwyddyn dwi jyst di dechrau teimlo'n well ac yn well trwy'r flwyddyn i gyd", meddai.

Image
Mali a'i brawd
Dywedodd Mali Elwy bod y llawdriniaeth wedi newid ei bywyd

“Ma’ ‘na ychydig o 'set backs' wedi bod, gorfod mynd i'r ysbyty ambell waith, 'infection' a ballu. Ond dio'm byd i gymharu â sut o'n i'n teimlo cynt, ma' jyst di bod yn flwyddyn grêt.

“Mae mor rhyfedd meddwl bod 'na flwyddyn gyfan wedi mynd ers yr op - ma' pethau'n edrych ar i fyny erbyn hyn.”

'Gweld y linell derfyn yn diflannu'

Mae Mali yn cofio’r siom wedi iddi gael gwybod ar ddau achlysur na fyddai modd i’r trawsblaniad fynd yn ei flaen.

Cyn hynny bu rhaid iddi hi a’i brawd fynd am asesiad ar gyfer y llawdriniaeth, ac ynysu am bythefnos wedyn.

“Nid fi’n unig mae’n effeithio, mae o'n andros o beth i rywun fynd drwy lawdriniaeth i roi organ i rywun arall.

“Ma'n beth mor anhunanol i neud, a mor anhygoel.

“O'n i'n teimlo'r ergyd dros Morgan hefyd. Oedd o jyst yn ergyd rili drom ac o'ch chi'n gweld y llinell derfyn 'na yn diflannu.”

Ond yna, ychydig cyn y Nadolig, fe ddaeth yr alwad i ddweud y byddai'r llawdriniaeth yn gallu digwydd.

Image
Mali a'i brawd Morgan
Cafodd Mali ei llawdriniaeth o'r diwedd dros y Nadolig y llynedd

“Dwi'n meddwl bod lot o bobl yn cofio'r Dolig yna yn un ofnadwy achos mi oedd o'n un anodd iawn i lot o bobl.

“Ond i fi dwi'n meddwl nai wastad gofio'r Dolig yna fatha'r Dolig cyntaf ar ôl trawsblaniad achos mi oedd o yn arbennig.

“Yr ymdeimlad 'ma o deulu a chariad o'n i'n cael o gwmpas y bwrdd bwyd y diwrnod 'na, doedd 'na ddim byd fatha fo.”

'Mam di bod yn garreg i ni gyd'

Ond mae cyfnod yr ŵyl yn un anodd i Mali a’i theulu.

Un ar ddeg mlynedd yn ôl collodd ei brawd Twm yn 18 mlwydd oed, ac yna saith mlynedd yn ôl fe gollodd ei thad ar ddydd San Steffan.

Yn ôl Mali, ei Mam Sioned fu’n gefn iddi hi a’i brodyr trwy’r cyfan.

“Ma’ gennom ni uned reit gryf, ‘da ni gyd di bod yna i'n gilydd ac mi fyddwn ni dal yna i'n gilydd drwy dreialon bywyd.

“Byddwn ni'n rhannu'r agosatrwydd yna am byth achos does 'na ddim byd yn mynd i dorri 'na.

“Alla i ddim rhoi o fewn i eiriau faint o berson anhygoel di Mam, mae di bod yn garreg i ni gyd drwy bob dim.

Image
Mali a Morgan
Dywedodd Mali fod ei theulu wedi aros yn agos gyda'i gilydd yn ystod amserau caled

“Dwi'm yn gwybod be fyswn i'n neud hebddi 'de.

“Mae'n ysbrydoliaeth i lot o bobl, a di hi ddim yn sylwi 'na chwaith dwi'm yn meddwl.

“Mae' jyst y person mwyaf anhygoel dwi'n nabod, a Mam ydi arwr fi ar ddiwedd y dydd.

“Os fyswn i'n tyfu fyny i fod hanner y ddynes ma' Mam fyswn i'n hapus.”

Nawr yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor mae Mali’n edrych ymlaen at y dyfodol.

“Di’r aren yma ddim yn mynd i bara am byth, achos ddim yn fy nghorff i mae o fod.

"Ond mae ‘na’n bell yn y dyfodol, a ma’r aren yma’n neud yn grêt ar y funud felly dwi’m yn edrych rhy bell i’r dyfodol ond dwi’n teimlo’n lwcus iawn ar ddiwedd dy flwyddyn hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.