Newyddion S4C

Angen gwella ansawdd mygydau i amddiffyn yn erbyn Omicron

30/12/2021
Mygydau / Covid / Ewrop / Yr Eidal / Pobl

Mae meddyg teulu wedi cynghori pobl i wisgo mygydau wyneb o ansawdd gwell i geisio atal lledaeniad o'r amrywiolyn Omicron. 

Bellach Omicron yw'r amrywiolyn mwyaf amlwg yng Nghymru. Mae dros 7,000 o achosion o'r amrywiolyn eisoes wedi'u cadarnhau. 

Daeth cyfyngiadau newydd i rym ar ddiwrnod San Steffan i geisio rheoli lledaeniad o'r amrywiolyn. Cafodd clybiau nos eu cau ac mae'r rheol chwe pherson wedi cael ei ailgyflwyno i'r diwydiant lletygarwch. 

Mae'r cyfyngiadau newydd wedi codi pryderon y gallai rhai penderfynu teithio dros y ffin i Loegr, lle nad oes cyfyngiadau o'r fath, i ddathlu Nos Galan ar y penwythnos.

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd Dr Eilir Hughes y dylai pobl wisgo mygydau o ansawdd gwell i amddiffyn eu hunain rhag y feirws wrth gymdeithasu a chymysgu gydag eraill.  

"Mi welwch chi y mygydau syml glas 'ma...yn gyffredin iawn yn y cyhoedd, da rhein ddim yn ddigonol i amddiffyn chi fel unigolyn, mae 'na ormod o fwlch rhwng yr ochrau," meddai. 

Image
Dr Eilir Hughes
Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu yn Nefyn

"Fyddai i'n deud wrth bobl i fynd am y mygydau FFP2, dwi'n teimlo mae nhw'n llawer mwy cyfforddus, di nhw ddim yn syrthio oddi ar y trwyn, mae nhw'n rhoi sêl dda rownd y wyneb.

"Mae rhain wedi cael eu dylunio i amddiffyn y person sy'n eu gwisgo nhw felly ewch am y mygydau gwell os ydych chi'n mynd ati i gymysgu gyda phobl." 

Profion LFT 'dim yn ddigonol'

Fe ychwanegodd Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg yn Nefyn, Gwynedd, ei fod yn dechrau sylweddoli fod pobl yn ei ardal yn dibynnu'n ormodol ar brofion llif unffordd.

"Mae llawer iawn o bobl yn dibynnu ar brofion LFTs a'r profion syml 'ma mae modd gwneud adref, ond dydy rheini ddim yn ddigonol os ydych chi gyda symptomau," meddai. 

"Da ni'n ceisio atgoffa pobl i fynd am y prawf PCR os ydy nhw hefo symptomau."

Mae problemau eisoes wedi dod i'r amlwg ynglŷn â chyflenwad profion PCR a phrofion llif unffordd wrth i'r galw amdanynt gynyddu'n ddiweddar. 

"Mae hyn yn rhywbeth ni wedi goro' ymdopi ag o trwy gydol y cyfnod 'ma," meddai Dr Hughes. 

"Beth sydd wedi bod yn digwydd yn lleol ydy bod 'na unedau symudol wedi bod, felly pan mae'r gyfradd wedi bod yn uchel yn Pwllheli mae'r uned ma wedi dod mewn i Bwllheli ac wedyn falle symud ymlaen i Gaernarfon." 

"Ac wrth gwrs mae pellterau mewn ardaloedd gwledig yn ffactor, hwylustod ag ati i bobl fynd am profion pryd mae nhw hefo symptomau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.