Newyddion S4C

Gerwyn Price i wynebu Michael Smith ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd

Sky News 30/12/2021
Gerwyn Price

Mae Gerwyn Price wedi sicrhau gornest yn erbyn Michael Smith yn rownd yr wyth olaf o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd.

Fe wnaeth Price, sy’n bencampwr y byd ac yn rhif un y byd, golli’r set agoriadol i Dirk van Duijvenbode cyn troi pethau o gwmpas ac ennill 4-1.

Fe allai hi fod wedi bod yn rownd gogynderfynol o Gymry yn unig, ond colli gwnaeth Jonny Clayton yn erbyn Smith o 4-3 mewn gêm oedd yn gyfartal ar un pryd.

Fe gurodd Clayton, 47, dwy set gyntaf yr ornest ond fe wnaeth Smith, 31, o Loegr ddod yn ôl gan ennill y dair oedd i ddilyn.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.