Aelod Seneddol Ceidwadol dros Fôn yn derbyn 'bygythiadau i’w bywyd'

Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i'r aelod seneddol Ceidwadol dros Ynys Môn dderbyn bygythiadau i’w bywyd dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd Virginia Crosbie fod nodyn wedi cyrraedd ei swyddfa etholiadol yng Nghaergybi ar 23 Rhagfyr gyda’r geiriau “mae bradwyr yn hongian” wedi eu hysgrifennu wrth ochr darlun o raff.
Ychwanegodd nad oedd hyn yn mynd i’w dychryn a galwodd y sawl oedd wedi ysgrifennu’r nodyn yn “llwfr”.
Roedd Ms Crosbie wedi rhoi gwybod i swyddogion llywodraeth y DU a’r heddlu yn syth ar ôl derbyn y nodyn.
Mae Ms Crosbie wedi dewis rhannu’r nodyn a'r darlun er mwyn annog pobl i gysylltu gyda’r heddlu os ydyn nhw’n adnabod yr ysgrifen.
Darllenwch y stori yn llawn yma.